Mae’r penderfyniad i gau canolfan brofi ar gyfer gweithwyr allweddol yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Llun y Pasg wedi cael ei feirniadu gan wleidyddion y gwrthbleidiau.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y ganolfan ar gau am “resymau gweithredol” ac oherwydd eu bod nhw wedi rhagweld mai “nifer isel o weithwyr allweddol fyddai’n gweithio” y diwrnod hwnnw.

Yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Angela Burns “dydy’r coronafeirws ddim yn parchu gwyliau banc, felly doedd dim rheswm dilys fod y ganolfan brawf ar gau”.

“Er fy mod yn deall fod straen ar adnoddau – yn enwedig staff, mae cau’r ganolfan brawf gan dybio mai ychydig o weithwyr allweddol fyddai’n cael eu profi, yn fy marn i, yn seiliedig ar osodiad ffug,” meddai wedyn.

“Mae penderfyniad Iechyd Cyhoeddus Cymru i gau’r ganolfan brawf yn anghredadwy.”

Oedi cyn profi

Dywed yr Aelod Cynulliad dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro fod y Ceidwadwyr Cymreig hefyd wedi clywed gan nyrs y bu’n rhaid aros wythnos am brawf.

“Mae cyfyngu ar nifer y dyddiau profi yn cadw gweithwyr allweddol sy’n iach i ffwrdd o’u dyletswyddau rheng flaen, neu yn atal y rhai sydd â coronafeirws rhag canfod eu bod wedi’u heintio a chymryd y camau cywir i wella – a chadw eraill yn ddiogel,” meddai.

“Yn ystod argyfwng iechyd cyhoeddus cenedlaethol, pan rydym eisoes yn profi llawer llai na nifer o wledydd eraill, mae’n anghredadwy bod Llywodraeth Cymru yn meddwl ei bod hi’n briodol i gau gorsaf brofi ar ŵyl y banc,” meddai Adam Price, arweinydd Plaid Cymru.

“Cawsom addewid gan y Llywodraeth y byddai 5,000 o brofion y dydd yng Nghymru erbyn canol Ebrill.

“Nid yw’n syndod gyda’r math hwn o weithredu nad ydym wedi gwneud dim cynnydd o gwbl tuag at gyrraedd y ffigwr yma.”