Mae Leanne Wood yn dweud ei bod yn “drueni” nad oedd hi wedi gallu cael prawf coronafeirws er mwyn cael bod yn sicr iddi gael ei heintio bythefnos yn ôl.

Mewn neges ar Facebook, mae cyn-arweinydd Plaid Cymru’n dweud bod ei phartner Ian wedi cael symptomau a’i bod hithau wedi’i tharo’n wael yn fuan wedyn.

Dywed eu bod nhw, ill dau, wedi bod yn ynysu eu hunain er mwyn gwarchod eu merch 15 oed.

Wrth ddisgrifio’i salwch, mae’n dweud bod dau ddiwrnod wedi mynd yn “niwlog” ac nad yw’n cofio fawr ddim o’r diwrnodau hynny.

Disgrifio salwch ei phartner

“Mae’n dod i bythefnos gyfan ers i fi fod yn ynysu fy hun,” meddai’r neges.

“Bythefnos yn ôl, ar ddydd Mawrth, dywedodd fy mhartner Ian ei fod e’n teimlo’n anhwylus.

“Roedd ganddo fe boen yn ei gyhyrau a bod angen cwsg arno fe.

“Ar ôl treulio’r diwrnod yn y gwely, dywedodd ei fod e’n poeni fod symptomau covid ganddo fe, felly roedd hi’n gwneud synnwyr i ni ei ynysu fe o fewn ein cartref, i ffwrdd oddi wrthyf fi a’n merch 15 oed.”

Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae’n dweud bod glanhau wedi mynd yn “obsesiwn” ganddi a bod cyflwr ei phartner wedi gwaethygu dros y diwrnod canlynol.

“Erbyn y dydd Iau, prin roedd e’n gallu symud,” meddai.

“Roedd ei dymheredd yn mynd lan a lawr ond does dim thermomedr gyda ni felly does dim clem gyda fi beth oedd e.

“Roedd e’n crynu un funud ac yn berwi’r funud nesaf. Ond wnaeth e ddim colli ei chwant bwyd a doedd dim peswch gyda fe.”

Cael ei tharo’n wael

Bryd hynny y dechreuodd hithau deimlo’n sâl, meddai.

“Erbyn y prynhawn dydd Iau, roedd pen tost yn dechrau dod gyda fi.

“Erbyn i ni fynd i’r drws ffrynt i glapio’r gweithwyr allweddol am 8 o’r gloch, ro’n i’n teimlo’n ofnadwy.

“Mae’r ddau ddiwrnod nesaf yn niwlog.

“Aeth y pen tost yn waeth. Llawer gwaeth, ac roedd gyda fi deimlad o gyfog a dolur rhydd.

“Am ran fwya’r dydd Gwener, do’n i ddim yn gallu codi fy mhen o’r clustog ac roedd agor fy llygaid yn boenus iawn.”

Mae’n dweud iddi lwyddo i “ateb sawl neges” a “phostio pethau bach ar fy nhudalen Facebook”, ond prin fod ganddi gof o wneud hynny.

“Daeth fy chwaer â bwyd i ni yn y nos, ond prin ’mod i wedi gallu siarad â hi pan wnaeth ei ollwng gyda ni.”

Mae’n dweud bod ganddi ben tost o hyd ar y dydd Sadwrn ond dim symptomau eraill a’i bod hi a’i phartner yn teimlo’n well erbyn y dydd Sul, er eu bod nhw wedi bod yn gysglyd iawn ers hynny.

Mae’n dweud na chafodd eu merch unrhyw symptomau, ac y bydd Leanne Wood hithau’n rhoi’r gorau i ynysu ei hun ddydd Mercher.

‘Dim profion’

Mae ei neges yn gorffen drwy ddweud nad yw hi’n gwybod yn sicr ei bod hi a’i phartner wedi cael eu heintio oherwydd sefyllfa’r profion yng Nghymru.

“Mae’n edrych yn debygol y bydd yn cymryd cryn amser cyn bod profion ar gael i allu gwybod, sy’n drueni oherwydd, pe bawn ni wedi ei gael e a bod gyda ni imiwnedd, fe allen ni fod yn ddefnyddiol, o bosib,” meddai.

“Pan fo’r ystadegau ar gyfer Covid yn cael eu cymharu â gwledydd eraill, mae’r rhan fwyaf o wledydd eraill yn dangos ffigwr ar gyfer y rhai sydd wedi cael y coronafeirws ac sydd wedi gwella.

“Dydy ffigurau’r Deyrnas Unedig ddim yn dangos y ffigwr hwnnw.

“Mae hynny oherwydd ei bod yn ymddangos nad oes neb yn cyfri a diffyg profion digonol a monitro achosion sy’n gyfrifol am hynny.

“Mae’n debygol fod llawer o bobol yn cael symptomau ysgafn ac yn gwella’n llwyr.

“Oni fyddai’n galonogol i ni gyd wybod faint o bobol sy’n gwella?”