Fe fydd sawl sector yn dod ynghyd yn ddigidol heddiw (dydd Llun, Ebrill 13) i drafod effaith y coronafeirws a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu.

Lesley Griffiths, y Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, fydd yn arwain y cyfarfod, ac fe fydd cynrychiolwyr o’r sectorau amaeth, pysgota, coedwigaeth, yr amgylchedd a bwyd a diod yn bresennol.

Mae disgwyl i’r gweinidog ddiolch i’r sectorau am eu rhan yn y frwydr yn erbyn y feirws, gan gynnwys bwydo’r genedl ac amddiffyn byd natur, a bydd hi’n amlinellu’r hyn mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i’w gwarchod yn ystod y pandemig.

‘Newidiadau sylweddol’

“Mae’r pandemig COVID-19 wedi arwain at y newidiadau mwyaf sylweddol i fywyd dinasyddion ers yr Ail Ryfel Byd,” meddai Lesley Griffiths.

“Mae hyn wedi cael effaith wirioneddol nid yn unig ar ein bywydau pob dydd ond hefyd ar sectorau allweddol yn ein heconomi.

“Dyna pam rwyf heddiw yn cynnal cyfarfod bord gron ar gyfer cynrychiolwyr diwydiannau allweddol o fewn fy mhortffolio i drafod y problemau mae COVID-19 yn eu peri, yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i’w cefnogi a sut rydyn ni’n gallu gweithio gyda’n gilydd yn y dyddiau heriol hyn.

“Mae hefyd yn gyfle imi ddweud diolch yn ddiffuant i’n diwydiannau bwyd – yn enwedig ein ffermwyr a physgotwyr – sy’n gweithio yn ddiflino i fwydo’r genedl.

“Diolch i’r rheini sy’n gweithio’n galed i amddiffyn ein hamgylchedd naturiol a’r rôl bwysig maen nhw’n ei chwarae yn ein cymunedau, ein heconomi a’r amgylchedd, yn aml yn addasu eu gwaith – er enghraifft, drwy greu adnoddau ar gyfer plant sydd gartref neu ddarparu manteision iechyd meddwl i bobl drwy werthfawrogi natur.

“Hoffwn i ddweud diolch hefyd i’r rheini sy’n gweithio yn y diwydiant manwerthu, a llawer ohonyn nhw’n rhyngweithio â’r cyhoeddi am oriau ar y tro – ac i’n busnesau bwyd a diod sy’n mynd y filltir ychwanegol wrth addasu eu gwasanaethau i helpu’r frwydr ehangach a helpu i amddiffyn ein GIG.

“Fel Llywodraeth, byddwn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i fynd i’r afael a’r heriau mae’r sectorau hyn yn eu hwynebu oherwydd COVID-19.

“Rhaid inni weithio gyda’n gilydd i wynebu a goresgyn yr heriau sydd o’n blaenau ni.”