Mae Cymru ar flaen y gad wrth ddefnyddio trallwysiad gwaed o bobol sydd wedi gwella o’r coronafeirws i drin pobol sydd wedi’u heintio.

Mae’r broses wedi’i defnyddio ers tro i drin sawl cyflwr yng Nghymru, ac fe fydd yn helpu’r rhai sydd wedi’u heintio i ddatblygu gwrthgyrff yn erbyn y feirws.

Mae’r Gwasanaeth Iechyd bellach yn galw ar bobol i roi gwaed os oes modd iddyn nhw wneud hynny’n ddiogel, a byddan nhw’n cael gwybod am brofion positif fydd yn gallu helpu cleifion.

Er mwyn cymryd rhan, mae’n rhaid bod cleifion wedi gwella’n llwyr o’r feirws ac felly, bydd rhaid aros hyd at 28 diwrnod cyn cymryd rhan yn y profion.

“Mae’n wych gweld bod Cymru’n chwarae rhan flaenllaw yn y prosiect hwn, sydd â’r potensial i wella cleifion yn sylweddol ac achub bywydau,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

“Byddwn ni’n casglu’r holl ddeilliannau ac yn eu bwydo i’r Deyrnas Unedig a’r byd er mwyn dysgu am y defnydd o’r dechnoleg hon.”

Ymateb y byd iechyd

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n gyflym gyda’n gwyddonwyr arbenigol yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru, Adran Imiwnoleg Ysbyty Athrofaol Caerdydd, arbenigwyr gofal critigol a Iechyd Cyhoeddus Cymru i lansio’r cynllun arloesol hwn,” meddai Dr Gill Richardson, uwch gynghorydd proffesiynol y Prif Swyddog Meddygol.

“Yn absenoldeb unrhyw frechlyn neu therapi gwrth-firol ar hyn o bryd, mae ganddo’r potensial i helpu cleifion i wella.”

Yn ôl Stuart Walker, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mae staff Ysbyty Athrofaol Caerdydd “wrth eu boddau” o allu cyfrannu at driniaeth newydd.