Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi awgrymu na fydd e’n sefyll yn etholiad nesa’r Cynulliad y flwyddyn nesaf.

“Naddo ydi’r ateb answyddogol,” meddai wrth Dewi Llwyd ar Radio Cymru fore heddiw (dydd Sul, Ebrill 12) pan gafodd ei holi a oedd e wedi gwneud penderfyniad.

Ond wedyn, fe ddywedodd mai’r “ateb swyddogol ydi ’mod i wedi gweld gwerth yn y cyfnod yma o weithio mewn ffordd wahanol”.

Wrth egluro ymhellach, dywedodd Aelod Cynulliad Dwyfor-Meirionnydd iddo sylweddol bod “yna fwy i fod yn ddinesydd da na bod yn wleidydd etholedig am fwy na deugain mlynedd”.

Gyrfa

Roedd e’n un o aelodau gwreiddiol y Cynulliad pan gafodd ei agor yn 1999, ac yn cynrychioli Plaid Cymru yn etholaeth Meirionnydd Nant Conwy ar y pryd.

Bu’n cynrychioli etholaeth newydd Dwyfor-Meirionnydd ers 2007.

Roedd yn Llywydd y Cynulliad rhwng 1999 a 2011.

Cafodd ei benodi’n Llefarydd yr Amgylchedd, Ynni a Chynllunio Plaid Cymru yn 2011, cyn cael ei benodi i bortffolio Materion Gwledig, Pysgodfeydd a Bwyd y flwyddyn ganlynol.

Bu’n Aelod Cynulliad annibynnol ers 2016, pan adawodd e Blaid Cymru.

Cafodd ei benodi’n Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yn Llywodraeth Lafur Cymru yn 2016.

“Gan mod i wedi cyrraedd y cyfnod yna o gynrychioli Meirionnydd yn gwbl gyson ar hyd y cyfnod yna am fwy na deugain mlynedd, fydda fo ddim yn gwneud llawer o synnwyr i rywun fod yn sefyll etholiad gan wybod y byddwn i’n 76 neu 77, beth bynnag fyswn i erbyn diwedd y Cynulliad nesa’,” meddai wedyn.