Mae seiclwr lleol fu farw mewn gwrthdrawiad yn ardal Porthaethwy wedi cael ei enwi.

Cafodd Robert Holmes, 36, ei daro gan gerbyd arall wrth seiclo yn yr ardal nos Wener (Ebrill 10).

Mae’r heddlu wedi estyn eu cydymdeimlad i’w deulu, ac maen nhw’n apelio am dystion a gwybodaeth am y digwyddiad rhwng 8.45 a 9.10 y nos.

Teyrnged

Yn ôl ei deulu, bu farw Robert Holmes “yn rhy fuan yn 36 oed”.

“Rydan ni i gyd yn torri ein calonnau,” meddai’r deyrnged.

“Bydd ei dri o feibion – Aaron, Jack a Connor – yn gweld ei isio fo’n fawr, ynghyd â’i deulu oll a’i ffrindiau.”

Maen nhw’n gofyn am breifatrwydd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.