Mae rhybudd i gleifion y galon na ddylen nhw osgoi mynd i’r ysbyty neu’r fferyllfa yn sgil eu pryderon y byddan nhw’n cael eu heintio â’r coronafeirws.

Mae meddygon yn Ysbyty Treforys yn Abertawe’n rhybuddio eu bod nhw’n peryglu eu bywydau wrth gadw draw.

Mae pedwar o gleifion sydd wedi cael triniaeth am afiechyd y galon wedi gorfod mynd yn ôl i’r ysbyty gan nad oedden nhw wedi bod yn cymryd meddyginiaeth.

Ac mae lle i gredu bod eraill yn penderfynu peidio â chael cyngor meddygol ar ôl cael poen yn y frest, sy’n un o’r arwyddion eu bod nhw’n dioddef trawiad ar y galon.

Mae canolfan y galon yn Ysbyty Treforys yn ymgymryd â 750 o lawdriniaethau bob blwyddyn, yn ogystal â miloedd o driniaethau eraill.

Ond mae llai o bobol yn mynd i’r ganolfan ers dechrau’r pandemig.

Pryderon

“Dw i a’m cydweithwyr yn poeni am y ffordd mae ymddygiad cleifion yn newid yn yr hinsawdd sydd ohoni,” meddai Dr James Barry.

“Y pryder yw fod y pendil wedi gwyro’n rhy bell wrth osgoi mynd i’r ysbyty, hyd yn oed ymhlith y rheiny sy’n cael argyfyngau difrifol o ran y galon.

“Hefyd, rydym yn credu bod pryderon am fynd i’r fferyllfa yn effeithio ar gydymffurfio â meddyginiaethau, gan arwain at niwed ac ateb galwadau brys ar gyfer trawiad ar y galon y gellir ei osgoi.”

Pwysigrwydd cymryd meddyginiaeth

Mae’n dweud ei bod hi’n bwysig i gleifion barhau i gymryd meddyginiaethau neu fe allai cleifion gael trawiad ar y galon.

“Rydyn ni wedi cael pedwar achos o’r fath yn yr wythnos ddiwethaf,” meddai.

“Mae’r rhesymau’n amrywio ond y neges yw fod y meddyginiaethau hyn yn hanfodol ac na ellir eu hosgoi am sawl diwrnod.

“Os yw pobol ar feddyginiaeth bresgripsiwn, dylen nhw sicrhau eu bod nhw’n cael presgripsiwn parhaus fel y gallen nhw ei gael gan y fferyllfa.

‘Ceisiwch gyngor meddygol’

Mae arbenigwr arall, Dr Ayush Khurana yn annog pobol i droi at feddyg os ydyn nhw’n cael poenau.

“Tra ei bod yn bwysig osgoi’r ysbyty lle bo’n bosib, mae yn gleifion fydd angen asesiad a thriniaeth, o bosib,” meddai.

“Byddwn ni naill ai’n dweud wrthyn nhw fod popeth yn iawn a’u hanfon nhw adref neu eu trin nhw cyn gynted â phosib a’u hanfon nhw adref.

“Os nad ydyn nhw’n ceisio sylw meddygol, fe allen nhw fod yn wynebu niwed hirdymor i’r galon neu drawiad ar y galon.

“Mae tipyn o waith wedi’i wneud i sicrhau bod gwasanaeth y galon yn parhau i ymdrin â chleifion â chyflyrau difrifol sy’n peryglu eu bywydau.

“Rydyn ni’n asesu ac yn trin yn ôl yr angen ac yn lleihau’r perygl yn wyneb Covid-19 lle bo’n bosib.”