Mae un o’r Cymry amlycaf ym myd beicio rhyngwladol yn helpu ei noddwr i ddosbarthu deunydd diheintio dwylo am ddim i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Syr Dave Brailsford, a gafodd ei fagu yn Arfon, yw pennaeth tîm Ineos, cwmni cemegol rhyngwladol sydd wedi rhoi ffatri at ei gilydd mewn 10 diwrnod yn Newton Aycliffe yn Swydd Durham i helpu mynd i’r afael â’r argyfwng coronafeirws.

Mae’r cwmni bellach yn cynhyrchu hyd at filiwn o boteli o ddeunydd diheintio dwylo i 28 o ysbytai ledled Prydain.

Fe wnaeth y cwmni droi at Dave Brailsford am help gyda’r dosbarthu.

“Rydan ni’n symud llawer o offer o gwmpas y byd – yn bobl, beiciau, cynhyrchion maeth, a cherbydau,” meddai.

“Mae gynnon ni dîm logistics gwych sy’n trefnu pethau i’r tîm.

“Dw i’n meddwl bod y sgiliau hyn wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn y sefyllfa yma, inni allu helpu cystal ag y gallwn ni.”

Meddai sylfaenydd a chadeirydd Ineos, Syr Jim Ratcliffe:

“Roedden ni’n gwybod bod prinder dybryd o ddeunydd diheintio dwylo ledled Prydain a’i bod yn hanfodol gweithredu ar frys.

“Credwn y bydd deunydd Ineos yn chwarae rhan allweddol yn y frwydr yn erbyn y feirws, gan helpu amddiffyn staff y gwasanaeth iechyd a phobl fregus ledled y wlad.”

Mae Ineos wedi sefydlu dau gynllun tebyg yn Ffrainc ac un yn yr Almaen.