Mae adroddiad newydd gan arbenigwyr o Brifysgol Caerdydd yn galw ar i Gymru gael pwerau dros dro gan Lywodraeth Prydain i fenthyg arian er mwyn goresgyn yr argyfwng coronafeirws.

Yn ôl Dadansoddi Cyllid Cymru, corff ymchwil yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru yn y Brifysgol, mae diffygion mawr yn y ffordd y caiff arian ei ddyrannu gan San Steffan i Gymru.

O dan y dull presennol, sy’n cael ei adnabod fel Fformiwla Barnett, does dim ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r ffaith fod poblogaeth Cymru’n hŷn ac yn llai iach na phoblogaeth Lloegr.

Mae’r cyfyngiadau presennol yn rhwystro Llywodraeth Cymru rhag benthyg arian ar gyfer gwario o ddydd i ddydd, gan gynnwys ymateb i’r achosion Covid-19.

Cyfyngiadau

Dywed Guto Ifan o’r corff ymchwil fod angen llacio’r cyfyngiadau hyn a seilio’r fformiwla cyllido ar anghenion. Mae’n galw ar roi’r gorau i’r terfyn o £125 miliwn y gall Cymru ei godi o Gronfa Arian wrth Gefn Cymru, er mwyn gallu gwario mwy ar wasanaethau cyhoeddus gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd.

“Yn wyneb graddfa’r argyfwng iechyd ac economaidd sy’n deillio o’r pandemig Covid-19, mae angen diwygiadau ar frys fel y gall Llywodraeth Cymru ymateb mewn ffordd sy’n diwallu anghenion ein dinasyddion,” meddai.

“Nid yw’r fformiwla presennol yn adlewyrchiad teg o’r galw ychwanegol y gall yr argyfwng ei roi ar wasanaethau cyhoeddus Cymru.”

Croesawu

Mae’r adroddiad, sy’n ategu galwad debyg gan y Prif Weinidog Mark Drakeford yr wythnos ddiwethaf, wedi cael ei groesawu gan Lywodraeth Cymru.

“Rydym wedi cyhoeddi mwy na £2 biliwn i fynd i’r afael â’r pandemig coronafeirws yng Nghymru ac yn parhau i ddefnyddio pob arf sydd ar gael inni i gryfhau ein hymateb,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Ond cytunwn â chasgliadau cyffredinol yr adroddiad ac rydym wedi galw ar Lywodraeth Prydain am fwy o hyblygrwydd a chyllid seiliedig ar angen i ymateb i Covid-19, yn enwedig o gofio poblogaeth cymharol hŷn Cymru.”