Mae angen i’r cyhoedd ddilyn y rheolau ac aros adre dros benwythnos y Pasg, meddai Prif Weithredwr GIG Cymru.

Dywedodd Dr Andrew Goodall: “Drwy aros adre, rydych yn helpu i gyfyngu ar y galw ar ein system iechyd a gofal.”

Sefyllfa siroedd Betsi Cadwaladr yn wahanol iawn i Gaerdydd

Mae esboniad hefyd wedi’i gynnig am y gwahaniaeth mawr mewn nifer y profion sy’n cael eu cynnal yng Nghaerdydd o gymharu â’r gogledd.

Mae ffigurau’n dangos bod cyfradd uwch o boblogaeth y brifddinas yn derbyn profion Covid-19, o gymharu â siroedd ardal Betsi Cadwaladr.

A chododd cwestiwn am hyn yn ystod sesiwn y Prif Weithredwr â’r wasg heddiw.

Ateb Dr Goodall i hynny oedd bod profion yn cael eu darparu mewn ardal ar sail pa mor ddwys mae bygythiad yr haint yno.

“Mae’n glir iawn i ni yng Nghymru bod lledaeniad yr haint o fewn y gymuned wedi bod yn llawer amlycach yn y de ddwyrain,”

“Ac er bod yna achosion ledled Cymru, wrth gwrs, mae [nifer yr achosion] yn amrywio o le i le.

“[Byddwn yn profi ar sail nifer yr achosion] a bydd hynny’n wir boed yn y gogledd, y gorllewin, neu’r de-ddwyrain.”

“Byddwn yn monitro’r sefyllfa dros y penwythnos ac yn cymryd camau gorfodaeth yn erbyn y rhai sy’n anwybyddu’r gofynion.”

Ffigurau

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 644.1 o bob 100,000 person yng Nghaerdydd wedi derbyn prawf, tra bod 213.3 o achosion wedi’u cofnodi am bob 100,000 person.

Sir Ddinbych yw’r sir ogleddol sydd â’r nifer uchaf o brofion am bob 100,000 person (301.1) a’r nifer uchaf o achosion am bob 100,000 (59.8).

Datgelodd Mr Goodall fod tua 10,000 o welyau ysbyty ar gael fel mater o drefn ledled Cymru a bod ychydig dros 3,200 yn wag ar hyn o bryd.

Gyda chyfleusterau newydd, megis yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd, a chapasiti ychwanegol o’r sector preifat, bydd agos at 7,000 o welyau ychwanegol ar gael yn y 10 i 12 diwrnod nesaf.

Mae capasiti gofal dwys ledled y wlad wedi cynyddu i dros 300 o welyau a bydd yn parhau i godi yn ystod yr wythnosau nesaf.

Dywedodd y swyddog iechyd bod tua 50% o’r gwelyau gofal dwys yn dal i fod ar gael

Bellach mae 4,089 o achosion coronafeirws wedi’u cadarnhau yng Nghymru, ac mae 286 o bobol wedi marw â’r haint.

Perchnogion llety gwyliau yn cael eu hatgoffa i aros ar gau dros y Pasg

Gyda’r rhagolygon yn dangos 4 diwrnod o dywydd cynnes, gallai pobl gael eu temtio i ymweld â mannau twristaidd – ond bydd heddluoedd Cymru yn parhau i batrolio ardaloedd poblogaidd, yn ogystal â gwirio modurwyr.

Gydag ychydig eithriadau, dylsai gwestai, gwely a brecwast, hosteli, eiddo gwyliau, parciau carafannau, gwersylloedd a thai llety bellach fod ar gau

Ym Mhowys, mae’r Cyngor Sir a’r Heddlu wedi atgoffa perchnogion llety gwyliau fel gwestai bach, parciau carafannau, safleoedd gwersylla, tai gwyliau, ynghyd â mannau lletygarwch eraill, i aros ar gau,

Dywedodd y Cynghorydd James Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar faterion Gwarchod y Cyhoedd: “Deallwn fod y Pasg yn draddodiadol yn cael ei weld fel dechrau tymor y gwyliau. Fodd bynnag, mae angen i bob un ohonom wneud popeth o fewn ein gallu i leihau lledaeniad y coronafeirws.”