Mae Cymru yn debygol o brofi “sawl wythnos arall” o fesurau lockdown, yn ôl y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

Yn siarad fore heddiw ar The Emma Barnett Show BBC 5 Live, ategodd safiad Llywodraeth Cymru a dywedodd y byddai’r camau yn “bendant” ddim yn dod i ben ar ôl y penwythnos hwn.

“Mae’n rhaid i ni gyfleu yn llawer cliriach bod hyn ddim yn mynd i ddod i ben yn fuan,” meddai. “Mae gennym sawl wythnos arall o’n blaenau, ar y lleiaf.

“Unwaith bydd gennym [well syniad o’r sefyllfa], bydd yn rhaid i ni fod yn onest gyda phobol [ac egluro] faint o amser sydd i fynd tan i ni adolygu’r sefyllfa eto.

“Bydd angen cynllun arnon ni i ddod allan o’r lockdown hefyd. Ac mae hynna’n anodd oherwydd does dim un wlad yn y byd wedi gwneud hynny’n llwyddiannus hyd yma.”

Osgoi ail naid

Yn siarad ar y rhaglen dywedodd hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn cyngor y swyddog meddygol, Frank Atherton, a bod yntau wedi pwysleisio pwysigrwydd y camau ynysu.

“Derbynion ni gyngor clir iawn oddi wrth ein Prif Swyddog Meddygol ddoe,” meddai.

“Pe bawn ni’n dewis dod â’r mesurau lockdown i ben ar ôl gwyliau banc y Pasg, dywedodd yntau y byddem yn profi naid arall mewn achosion o drosglwyddo’r haint.

“Byddem yn colli’r holl dir rydym wedi ei ennill. Dydyn ni ddim yn barod i wneud hynny.”

Bydd Vaughan Gething yn cymryd rhan mewn cyfarfod â gweinidogion o weddill y Deyrnas Unedig yn ddiweddarach heddiw.

Syndod yn Llundain

Mewn sesiwn Cynulliad rhithwir ar dydd Mercher cyhoeddodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, y byddai’r lockdown yn parhau trwy’r wythnos nesa’.

Ar un adeg roedd dyfalu y gallai mesurau gael eu hysgafnhau yn sgil penwythnos gŵyl y banc, a daeth cyhoeddiad Llywodraeth Cymru cyn i Lywodraeth San Steffan wneud cyhoeddiad am y mater.

Mae Sky News wedi adrodd bod penderfyniad Llywodraeth Cymru i barhau â’r mesurau llym wedi bod yn syndod i 10 Downing Street.

Tros yr wythnosau diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei chyhuddo o ddilyn penderfyniadau Llundain yn wasaidd, felly gellid dweud bod hyn yn enghraifft ohoni’n ceisio torri cwys ei hun.