Mae’r Aelod Cynulliad Alun Davies wedi diolch i staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol am achub ei fywyd wedi iddo gael trawiad ar y galon mewn parc yng Nghaerdydd.

Dechreuodd yr aelod dros Flaenau Gwent ei flog gan ddweud: “dyw hyn ddim am wleidyddiaeth, mae hyn am fy marwolaeth.”

Mae’n disgrifio sut y gwnaeth penderfyniad i redeg mewn parc prysur achub ei fywyd.

Diolchodd y gŵr 56 oed i staff y gwasanaeth iechyd am ei drin wrth geisio ymdopi gyda phwysau’r pandemig coronafeirws.

“Rydym oll yn trafod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac mae ganddo ei namau, ond mewn cyfnod lle mae’n delio gyda’r argyfwng iechyd mwyaf mewn cenhedlaeth llwyddodd hefyd i achub bywyd dyn canol oed dros bwysau,” meddai.

Ysgrifennodd Alun Davies, sydd wedi bod yn Aelod Cynulliad Llafur dros Flaenau Gwent ers 2011, am sut mae o’n mwynhau rhedeg ym Mharc Bute, Caerdydd, ac yn y bryniau o gwmpas Trefil, ger Tredegar.

Penderfyniad yn achub bywyd

Disgrifiodd sut roedd wedi bwriadu teithio i’w etholaeth cyn rhedeg ddydd Gwener, cyn penderfynu mynd am jog yn y brifddinas.

“Achubodd y penderfyniad hwnnw fy mywyd,” meddai.

Dywed nad yw’n cofio llawer am yr hyn ddigwyddodd nesaf a dyw e dal ddim yn cofio stopio i siarad gyda ffrindiau cyn cwympo.

“Mae’n troi allan fy mod wedi dioddef o ataliad y galon.

“Yn y foment honno roedd fy nghalon wedi stopio curo. Roedd o wedi stopio gweithio,” meddai yn y blog.

“Doedd dim sylweddoliad. Dim poen. Doedd dim arwydd yn ystod y dydd na’r dyddiau blaenorol bod unrhyw beth o’i le. Roeddwn yn teimlo’n iawn.”

Llwyddodd y ffrindiau y bu’n siarad â nhw i ffonio 999, rhoi CPR iddo a ffeindio diffibriliwr ddaru parafeddygon ei ddefnyddio i “ailddechrau fy nghalon,” ysgrifennodd Alun Davies.