Mae 19 yn rhagor o bobol wedi marw o ganlyniad i’r coronafeirws yng Nghymru, yn ôl diweddariad dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae 291 o achosion newydd wedi’u cofnodi.

Mae’n golygu bod cyfanswm o 212 bellach wedi marw o’r feirws, a 3,790 o achosion wedi’u cadarnhau.

Serch hynny, dydy’r ffigurau ddim yn fanwl gywir oherwydd y ffordd mae achosion yn cael eu hadrodd.

Mae mwy na 15,000 o brofion wedi’u cynnal erbyn hyn, a mwy na 13,000 o bobol wedi cael eu profi.