Nid yr heddlu ddylai orfod plismona’r rheolau newydd fod rhaid i weithwyr gadw pellter o ddwy fetr rhwng ei gilydd, yn ôl Comisiynydd Heddlu’r Gogledd.

Daeth deddf Llywodraeth Cymru i rym heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 7), wrth i Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, ddweud bod rhaid i gyflogwyr “roi anghenion eu gweithwyr yn gyntaf”.

Ac er bod Arfon Jones yn gefnogol i’r ddeddf ac am “weld gweithwyr yn cael eu gwarchod,” dywed mai mater i swyddogion iechyd a diogelwch ydyw yn hytrach na’r heddlu.

“Mae gan yr heddlu ddigon o waith i’w wneud wrth geisio stopio pobol rhag teithio i Gymru a sicrhau fod pobol yn aros adref,” meddai wrth golwg360.

“Swyddogion iechyd a diogelwch ddylai fod yn gyfrifol am blismona’r rheoliadau ac mae gan awdurdodau lleol hefyd rôl i’w chwarae.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi brysio’r ddeddfwriaeth hon.”