Fe fydd tair canolfan brofi ychwanegol yn cael eu codi yng Nghymru wrth i’r llywodraeth geisio bwrw eu targed o 9,000 o brofion coronafeirws y dydd erbyn diwedd mis Ebrill, yn ôl y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

Yn ystod ei gynhadledd i’r wasg heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 7), dywedodd y bydd y ganolfan brawf sydd yn cael ei chodi yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn helpu’r llywodraeth i “ddysgu llawer” am nifer y profion y gellid eu cynnal.

Y bwriad yw na fydd pobol yn gorfod teithio mwy na 30 munud o’u cartrefi er mwyn cael eu profi.

Dywedodd fod un ganolfan “fwy na thebyg” am gael ei hadeiladu yn Rodney Parade yng Nghasnewydd, un arall yn y de orllewin, ac un arall yn y gogledd, a hynny o fewn y saith i ddeg diwrnod nesaf.

Yn ôl Vaughan Gething, bydd gweithwyr iechyd a chymdeithasol yn cael y flaenoriaeth i ddechrau, gyda’r profion yn cael eu hymestyn i weithwyr rheng flaen eraill fel yr heddlu a swyddogion carchardai a thân yn nes ymlaen.