Mae perchennog cwmni sy’n creu baneri i’r mudiad annibyniaeth yng Nghymru ac yn arwain ei orymdeithiau wedi amddiffyn ei benderfyniad i aros ar agor i gwblhau gwaith sy’n cynnwys creu baneri i’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.

Caeodd Charles Ashburner ddrysau’r cwmni i’r cyhoedd dros dro ar Fawrth 27, gan ddweud ei fod yn gwneud hynny yn “ysbryd yr ymdrechion cenedlaethol”, cyn ail agor ar ôl derbyn nifer fawr o archebion am faneri yn diolch i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Ymhlith y rhai fydd yn elwa o’r penderfyniad mae NHS Nightingale yn Llundain, wrth iddo gynhyrchu baneri ar eu cyfer yn rhad ac am ddim.

Wrth aros ar agor, mae’n dweud iddo wneud penderfyniad rhwng “gwarchod swyddi fy staff neu adael i’r archebion fynd i gynhyrchwyr eraill yn Ewrop a’r Dwyrain Pell”.

Mae’n debyg iddo dderbyn nifer o gwynion, ond mae’n dweud mewn e-bost sydd wedi’i gweld gan golwg360 fod ymateb cwsmeriaid wedi bod yn “bositif ar y cyfan” – er nad oes elw o’r gwerthiant yn mynd i’r Gwasanaeth Iechyd.

“Nid ydym yn rhoddi unrhyw ran o werthiant y baneri yma i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai Charles Ashburner.

“Rydym yn codi pris teg am faneri o safon dda sy’n cael eu dosbarthu yn gyflym o dan amgylchiadau anodd.”

“Mae’r arian rydym yn ei wneud yn mynd tuag at warchod swyddi fy staff.

“Dyna’r unig gyfiawnhad rwyf ei angen, ac rwy’n cadw at fy mhenderfyniad.”

 Cynhyrchu baner i NHS Nightingale Llundain

Mae Mr Flag yn cynnal trafodaethau â chorff NHS Nightingale Llundain ac eraill ynghylch cynhyrchu baneri.

Dywed y byddai’n gwneud hyn yn rhad ac am ddim, ar yr amod fod ei gwmni yn gallu ateb y gofynion.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a ydi o wedi trafod gydag ysbytai yng Nghymru.

Mae golwg360 wedi ceisio cysylltu â’r cwmni am ymateb.