Fel nifer o ddisgyblion yng Nghymru, mae Lloyd Warburton yn wynebu cyfnod amhenodol gartref oherwydd y coronafeirws.

Er hyn mae’r bachgen 16 oed wedi penderfynu gwneud defnydd o’i amser sbâr gan rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am y coronafeirws yng Nghymru ar wefan newydd.

Ar ôl i arholiadau TGAU Lloyd Warburton o Aberystwyth gael eu canslo, penderfynodd fynd ati i rannu diweddariadau dyddiol am y coronafeirws yng Nghymru mewn ffordd weledol ar ei gyfrif Twitter.

Ac ar ôl i filoedd ei ddilyn ar Twitter, mae bellach wedi creu gwefan sydd yn rhannu graffiau a mapiau gyda’r ystadegau diweddaraf.

Ar y diwrnod cyntaf ymwelodd dros 4000 o bobol a’r wefan coronaviruscymru.wales

‘Creu rhywbeth gweledol’

Mae Lloyd Warburton wedi rhannu ei brofiad o greu gwefan diweddariadau coronafeirws ar BroAber360.

“Penderfynais fy mod i’n mynd i greu rhywbeth gweledol i ddangos y data,” meddai.

“Ar ôl ychydig o chwarae gyda PowerPoint a Paint, fe wnes i greu tabl a map syml iawn i’w rannu ar wefannau cymdeithasol.

“Y penwythnos ar ôl creu’r sleid gyntaf, ffrwydrodd y nifer o bobol oedd yn dilyn fy nghyfrif Twitter.

“Roedd pobl yn meddwl fy mod i’n gwneud ‘gwasanaeth cyhoeddus’. Wrth gwrs, doeddwn i ddim yn meddwl amdano fel hyn – dim ond hobi oedd o.”

Yn fuan wedi hyn penderfynodd greu gwefan er mwyn dod a’r wybodaeth i gyd mewn un lle.

Ymwelodd dros 4000 o bobol â gwefan coronaviruscymru.wales ar y diwrnod cyntaf.

Beth nesaf?

Er bod ei waith yn cofnodi’r ystadegau wedi cael tipyn o sylw ar y cyfryngau cymdeithasol, dywed mai ei ganlyniadau TGAU yr haf yma yw ei brif flaenoriaeth, a’i fod yn edrych ymlaen at barhau a’i addysg.

“Rwy’n gobeithio cael graddau da yn fy nghanlyniadau TGAU, ac rwy’n gobeithio gwneud lefelau A mewn bioleg, daearyddiaeth, cymdeithaseg a ffiseg,” meddai.

“O ran fy ngyrfa, dydw i ddim yn siŵr beth dwi eisiau ei wneud, ond rwy’n gobeithio mynd i’r brifysgol ac, yn y dyfodol pell, cael swydd dda.”