Mae undeb Unsain yng Nghymru yn cynnig cwrs coronafeirws ar-lein i aelodau gofal cymdeithasol a gweithwyr yng Nghymru, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Dysgu Undeb Cymru.

Wrth gydweithio ag e-Learning For You, bydd yr undeb yn cynnig mynediad i’r cwrs coronafeirws am ddim.

Mae’n cynnwys gwybodaeth am y feirws, arwyddion a symptomau, technegau golchi dwylo a sut i reoli heintiau, ac yn darparu arweiniad ynghylch sut i gadw pobol sy’n cael eu gwarchod gan weithwyr gofal cymdeithasol mor ddiogel â phosib rhag coronafeirws.

Ugain munud mae’r cwrs yn ei gymryd i’w gwblhau ac mae modd cael mynediad iddo gan ddefnyddio ffôn symudol neu gyfrifiadur.

“Mae staff iechyd a gofal cyhoeddus wastad wedi bod yn flaenoriaeth i ni, ond nawr yn fwy nag erioed mae’n rhaid inni wneud beth allwn ni i gefnogi’r sawl sy’n gwarchod pobol fwyaf bregus ein cymdeithas,” meddai Jenny Griffin, rheolwr y prosiect.

“Bydd y cwrs coronafeirws yma yn rhoi’r wybodaeth i staff sydd ei hangen arnyn nhw yn y cyfnod hwn.”