Bydd deddf Llywodraeth Cymru yn gorfodi cyflogwyr i sicrhau bod gweithwyr yn aros dwy fetr wahân yn ystod ymlediad y coronafeirws yn dod i rym heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 7).

Dywed prif weinidog Cymru Mark Drakeford bod y ddeddf, y gyntaf o’i math yng ngwledydd Prydain, yn gofyn i gyflogwyr “roi anghenion eu gweithwyr yn gyntaf.”

Mewn cynhadledd coronafeirws ddydd Gwener (Ebrill 3), dywedodd fod y ddeddf newydd yn ymateb i bobol yng Nghymru fu’n dweud eu bod yn pryderu am eu hiechyd yn y gweithle.

Ddoe (dydd Llun, Ebrill 6), roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi cadarnhau bod 27 yn rhagor o bobol wedi marw ar ôl profi’n bositif am y coronafeirws, gan ddod â chyfanswm y marwolaethau yng Nghymru i 193.

Mae 302 o achosion newydd o’r coronafeirws yng Nghymru gyda chyfanswm yr achosion sydd wedi’u cadarnhau bellach wedi cyrraedd 3,499.

‘Gwarchod iechyd pobol’

“Dwi wedi clywed oddi wrth unigolion a’r undebau eu bod yn mynd i’r gwaith a bod pethau ddim mewn lle i warchod eu hiechyd a’u lles,” meddai Mark Drakeford ar raglen Post Cyntaf ar Radio Cymru heddiw.

“Felly rydym wedi cymryd camau rhesymol i warchod iechyd pobol sydd yn gweithio yn y gweithlu.

“Dwi’n hyderus bod pawb yn gallu gweld bod angen i bob un ohonom wneud beth yr ydym yn gallu ei wneud a chymryd y camau rhesymol i warchod lles pobol yn y gweithlu.”

Ond mae’r prif weinidog yn “cydnabod y ffaith bod pob gweithle yn wahanol”.

“Dyna pam ’dan ni ddim yn dweud yn y rheoliadau bod rhaid i bob person aros dwy fetr ar wahân bob tro,” meddai wedyn.

“Beth rydym yn ei ddweud yw ei bod hi lawr i bobol ymhob lleoliad i weithio gyda’i gilydd i ffeindio’r mesurau rhesymol maen nhw’n gallu eu cymryd i helpu pobol i fod yn iachus yn y gweithle.”