Mae dros 300 o fisors i’w defnyddio gan y Gwasanaeth Iechyd eisoes wedi eu cynhyrchu gan staff pedair ysgol – Ysgol Bro Pedr, Ysgol Penglais, Ysgol Bro Teifi ac Ysgol Uwchradd Aberteifi.

Mae’r fisors yma’n cael eu cynhyrchu ar argraffwyr 3D yr ysgolion ac mae’n nhw’n darparu cyfarpar diogelu sydd ei angen ar gyfer gweithwyr rheng-flaen mewn ysbytai yng Ngheredigion wrth iddyn nhw ymdrin â’r coronafeirws.

Yn ôl Cyngor Sir Ceredigion, mae cynlluniau ar waith i greu 2,000 yn rhagor o’r fisors hanfodol hyn.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i’n staff sy’n defnyddio eu harbenigedd a’u hoffer ysgol i helpu eraill,” meddai Meinir Ebbsworth, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Ysgolion.

Mae Cyngor Sir Ceredigion hefyd wedi mynegi eu balchder o’r cyfraniad mae eu hysgolion yn ei wneud yn ystod y cyfnod anodd a heriol hwn, ac yn diolch i’r staff a gwirfoddolwyr sydd wedi dangos y fath ewyllys da i helpu eraill.