Stryd fawr Bangor
Mae swyddogion y Gwasanaeth Tân a Heddlu Gogledd Cymru wedi cychwyn ymchwilio i achos y tân sydd wedi gwneud difrod sylweddol i’r brif neuadd yn Ysgol Glanadda ym Mangor dros nos.

Cafodd pedair injan dân, dwy o Fangor, un o Fiwmares a’r llall o Gaernarfon, un platform awyr ac uned reoli eu hanfon i’r ysgol ar Ffordd Caernarfon toc wedi hanner nos ac fe gafodd y tân  yn Uned Addysg Bryn Llwyd ei ddiffodd tua hanner awr wedi pump y bore.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd bod yr uned yn darparu cefnogaeth addysgiadol i nifer fechan o ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 4 ( 10 – 11 oed) sydd ddim bellach yn mynychu ysgolion prif ffrwd.

“Mae swyddogion Cyngor Gwynedd wrthi ar hyn o bryd yn gweithio efo’r gwasanaethau brys i ddiogelu’r safle,” meddai.

Mae oddeutu 60 disgybl rhwng 7 – 11 oed yng Nglanadda, sy’n gwasanaethu rhan orllewinol y ddinas.

Cafodd yr ysgol ei hadeiladu yn Oes Fictoria ac mae trigolion ardal Glanadda yn siomedig iawn o weld y difrod.

“Mae mor drist gweld yr adeilad 123 oed yma wedi llosgi” meddai Ifan Wyn Roberts sy’n byw gerllaw. “Roeddwn i’n ddisgybl yno ac fe es i’r dathliadau canmlwyddiant yn 1988.”