Cyhoeddodd BBC Cymru heddiw (Mawrth 6) eu bod yn lansio pecyn arbennig o gymorth i gynorthwyo’r cwmnïau cynhyrchu annibynnol yng Nghymru sy’n gweithio gyda’r darlledwr.

Gobaith y BBC yw y bydd y pecyn yn helpu i gefnogi’r sector yn ystod yr argyfwng coronafeirws presennol.

Mae’r pecyn a gafodd ei gyflwyno i gwmnïau annibynnol yn cynnwys:

  • lansio rownd comisiynu newydd ar gyfer cynnwys ar y teledu a’r radio yn ogystal â chynnwys ffurf fer ar gyfer cynulleidfaoedd iau
  • cymorth ychwanegol i gwmnïau annibynnol bach ledled Prydain drwy ehangu Cronfa Cwmnïau Annibynnol Bach y BBC
  • cronfa arbennig i roi hwb i brosiectau datblygu teledu
  • cronfa ddatblygu newydd ar gyfer radio i gefnogi syniadau am raglenni newydd.

“Rydyn ni’n cymryd camau cyfrifol a rhagweithiol wrth ddelio â’r sefyllfa gyda’r bwriad o gefnogi’r diwydiant creadigol dros y cyfnod anodd hwn” meddai Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru.

“Heblaw am newyddion a materion cyfoes, y sector annibynnol sy’n darparu mwyafrif helaeth rhaglenni BBC Cymru, yn cynnwys rhai o’n hoff raglenni a’r rhai mwyaf difyr, felly mae er lles pawb i sicrhau y gall y diwydiant barhau i ffynnu pan fydd yr argyfwng hwn drosodd.”

Mesurau Pellach

Mewn galwad arbennig ddydd Gwener gyda phartneriaid yn y sector, amlinellodd tîm comisiynu BBC Cymru yr ystod o fesurau sy’n cael eu cymryd gan y BBC i gefnogi’r sector yng Nghymru, yn cynnwys:

  • BBC Cymru yn lansio rownd gomisiynu newydd yr wythnos hon i chwilio am raglenni teledu a radio sy’n adlewyrchu bywyd yn ystod yr argyfwng presennol a thu hwnt. Gan fod ein bywyd bob dydd yng Nghymru wedi newid cymaint, mae’r darlledwr yn chwilio am gynnwys sy’n codi’r llen ar yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau anochel yn ystod pandemig, yn ogystal â chwilio am syniadau newydd i ddod â ni at ein gilydd fel gwlad neu rywbeth i’n helpu i ddianc o rigol bywyd.
  • Dyblu Cronfa Cwmnïau Annibynnol Bach y BBC (o £1m i £2m) – sy’n cael ei rheoli gan BBC Content – er mwyn helpu cwmnïau annibynnol bach ledled Prydain sy’n fregus iawn ar hyn o bryd.
  • Cronfa arbennig gan BBC Cymru i roi hwb i brosiectau teledu, megis drama a chomedi, gydag un llygad ar amserlenni’r dyfodol y tu hwnt i 2020.
  • Cronfa ddatblygu radio i gefnogi syniadau newydd am raglenni y gellir eu creu’n gyflym i’w darlledu dros y misoedd nesaf ar Radio Cymru a Radio Wales.
  • Cyfleoedd comisiynu ffurf fer newydd ar gyfer llwyfannau cyfryngau cymdeithasol BBC Cymru gyda’r bwriad o addysgu a diddanu cynulleidfaoedd – yn arbennig y rheini o dan 45 oed.
  • Mwy o fuddsoddiad yng nghynnwys archif BBC Cymru ar BBC iPlayer drwy gael gafael ar raglenni gan bartneriaid yn y sector. Y bwriad yw cyflwyno archif sylweddol o gynnwys o Gymru ar yr iPlayer dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.
  • Ymrwymiad gan BBC Cymru a theledu’r rhwydwaith i weithio’n agos â chwmnïau cynhyrchu sy’n gweithio ar brosiectau presennol sydd wedi cael eu tarfu.