Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi eu bod yn darparu cefnogaeth i’r Gwasanaeth Iechyd trwy sicrhau bod cyfleusterau a gwasanaethau ar gael i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ystod pandemig o coronafeirws.

Am gyfnod o dair wythnos, bydd posib i staff y Gwasanaeth Iechyd fynychu sesiynau hyfforddi yng nghyfleusterau cynadledda Medrus sydd ar gampws y Brifysgol.

Yn ogystal â staff presennol y Gwasanaeth Iechyd, mae’r Brifysgol wedi agor yr hyfforddiant yma i hyd at 300 o staff sydd yn dychwelyd yn ôl i’w gwaith hefyd.

Yn y cyfamser mae’r Brifysgol wedi neilltuo llety yn y neuaddau preswyl ar gampws Penglais i staff sy’n gweithio yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Aberystwyth a gweithwyr y gwasanaethau brys.

Gwirfoddoli

 Nid yn unig hyfforddiant a llety mae’r brifysgol yn eu darparu i’r Gwasanaeth Iechyd drwy’r cyfnod hwn, ond eu staff eu hunain hefyd. Mae staff Prifysgol Aberystwyth wedi cael eu hannog i wirfoddoli ar gyfer amryw o swyddi yn Ysbyty Bronglais yn dilyn cais gan y Bwrdd Iechyd lleol.

Yn ogystal â hyn, mae tîm o’r Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddorau Daear wedi mynd â’u holl gyflenwad o offer diogelwch personol i Ysbyty Bronglais, tra bod cydweithwyr yn y Gyfadran Busnes a Gwyddorau Ffisegol yn cynhyrchu penwisgoedd diogelwch ar gyfer gweithwyr iechyd yn y rheng flaen.