Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wedi cadarnhau bod 27 yn rhagor o bobl wedi marw ar ôl cael prawf positif am Covid-19, gan ddod a chyfanswm y marwolaethau yng Nghymru i 193.

Mae 302 o achosion newydd o’r coronafeirws yng Nghymru gyda chyfanswm yr achosion  sydd wedi’u cadarnhau bellach yn cyrraedd 3,499 meddai ICC. Mae dau achos arall eto i’w cadarnhau.

Dywedodd Dr Giri Shankar, y cyfarwyddwr sy’n gyfrifol am yr ymateb i’r pandemig yng Nghymru, eu bod yn estyn eu cydymdeimlad i deuluoedd a ffrindiau’r rhai sydd wedi’u heffeithio.

Galw am gyfarfod brys

Daw’r ffigurau diweddaraf wedi i Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, alw am gyfarfod brys o’r pwyllgor argyfyngau Cobra gyda phedair llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn adolygu mesurau’r coronafeirws.

Dywedodd Mark Drakeford bod angen penderfynu “beth sy’n digwydd nesaf” wedi’r pythefnos cyntaf o’r lockdown sy’n galw ar bobl i aros gartref ac ymbellhau’n gymdeithasol.

“Mae’n bwysig bod y pedair llywodraeth yn y Deyrnas Unedig yn dod ynghyd i ystyried y dystiolaeth a phenderfynu ar y ffordd orau ymlaen.”

Pan ofynnwyd a fyddai o blaid ymestyn y lockdown presennol, dywedodd Mark Drakeford ei fod “yn credu y bydd yn parhau ar ôl dydd Mawrth y Pasg. Dyna pryd mae’r tair wythnos yn dod i ben yn ffurfiol.

“Mae popeth hyd yn hyn yn awgrymu i mi y byddai’n ffôl i beryglu’r ymdrech enfawr mae pawb wedi ei wneud drwy lacio’r canllawiau ry’n ni wedi bod yn byw gyda nhw ar y pwynt yna.

“Fe fyddwn ni’n edrych ar y dystiolaeth wyddonol a meddygol.”

Ond ychwanegodd bod cyfnod arall o fesurau tynn yn ymddangos yn angenrheidiol.

“Gwellhad buan”

Yn y cyfamser mae Mark Drakeford wedi dymuno “gwellhad buan” i’r Prif Weinidog Boris Johnson wrth iddo gael profion am coronafeirws yn yr ysbyty.

Mae Boris Johnson wedi dweud y bydd yn parhau i arwain y llywodraeth o’r ysbyty a dywedodd Mark Drakeford ei fod yn “sicr bod y Prif Weinidog yn dilyn cyngor ei feddygon. Os yw’r cyngor yn dweud bod angen iddo newid ei batrwm gwaith er mwyn gwella rwy’n siŵr y bydd yn gwneud hynny.”