Mae’r gantores bop o Ben Llŷn, Duffy, wedi datgelu rhagor o fanylion am ei phrofiad dirdynnol o gael ei threisio, ei drygio a’i chadw’n gaeth am wythnosau.

Meddai Duffy ei bod yn adrodd ei stori “dywyll” er mwyn helpu “eraill sydd wedi dioddef yr un peth.”

Drwy bost ar ei thudalen Instagram ddoe (Mawrth 5) dywedodd y Aimee Duffy, 35 oed ei bod wedi cael ei drygio mewn bwyty ar ei phen-blwydd cyn cael ei chadw’n gaeth yn ei chartref ei hun ac yna ei chludo i wlad dramor.

Mewn post helaeth a rannwyd drwy linc ar Instagram, ychwanegodd Duffy:

“Rwy’n gobeithio ei fod o gysur i chi i deimlo llai o gywilydd os ydych chi’n teimlo’n unig.”

Datgelodd Duffy ei hanes am y tro cyntaf ym mis Chwefror eleni, ac mae wedi mynd ati i rannu mwy am ei phrofiad ar ei thudalen we.

“Roedd hi’n ben-blwydd arna i, cefais fy nrygio mewn bwyty, ac yna ges i fy nrygio am bedair wythnos arall a theithio i wlad dramor,” meddai.

“Dydw i ddim yn cofio mynd ar yr awyren a deffrais yng nghefn cerbyd oedd yn symud.

“Ges i fy rhoi mewn ystafell mewn gwesty a daeth y troseddwr yn ôl a’m treisio i.

“Roeddwn i’n sownd hefo fo am ddiwrnod arall, wnaeth o ddim edrych arna i, roedd yn rhaid i mi gerdded tu ôl iddo fo, ro’n i’n eithaf ymwybodol a thawedog.

“Gallai yn hawdd iawn wedi cael gwared arna i.”

Ddim yn cofio cyrraedd adref

Dywedodd nad ydi’n gwybod sut y cafodd hi’r “nerth i ddioddef y dyddiau yna”, ac mae’n honni fod y troseddwr wedi “cyfaddef yn glir ei fod eisiau fy lladd i.”

Mae’n rhannu ei phrofiad erchyll meddai “gan ein bod yn byw mewn byd sydd mewn poen.”

“Does gen i ddim cywilydd bellach fod rhywun wedi fy mrifo i.”

Dywedodd ei bod wedi dianc, ond nid yw’n rhannu’r union fodd o’r ffordd y llwyddodd i ddod yn rhydd, gan ddweud “dydw i ddim yn cofio cyrraedd adref.”

Roedd hi’n ofni mynd at yr heddlu i ddechrau meddai, ond yn y diwedd dywedodd wrth swyddog benywaidd beth oedd wedi digwydd iddi ar ôl i rywun fygwth rhyddhau ei stori.

Yn ôl y gantores mae hi wedi bod mewn perygl uchel iawn o ladd ei hunan yn dilyn y profiad ac wedi treulio bron i ddeng mlynedd yn gyfan gwbl ar ei phen ei hun.

Ond meddai ei bod nawr yn teimlo ei bod yn gallu gadael y ddegawd yma y tu ôl iddi a’i bod nawr yn rhydd, a diolchodd i’w seicolegydd am ei helpu drwy’r trawma.