Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun i ddarparu gofal plant am ddim i weithwyr hanfodol.

O dan y cynllun newydd, bydd cynghorau’n gallu defnyddio cyllid o Ddarpariaeth Gofal Plant Llywodraeth Cymru i gefnogi gofalwyr plant cofrestredig i ofalu am blant.

Mae’r cynllun yn cynnig darparu gofal i blant o dan bump oed am y tri mis nesaf.

Ar hyn o bryd, mae darpariaeth gofal plant Cymru’n cynnig 30 awr o ofal ac addysg i blant tair a phedair oed, a hynny am 48 wythnos y flwyddyn.

Ond bydd hyn yn cael ei ohirio gyda’r cynllun gofal plant y coronafeirws yn cymryd ei le.

Bydd Llywodraeth Cymru yn talu gofalwyr plant am yr oriau o ofal plant sydd wedi’u harchebu gan bobol eisoes.

“Mae’n hollbwysig nad yw rhieni sy’n weithwyr hanfodol – y rhai ar y rheng flaen – yn wynebu rhwystrau yn y frwydr yn erbyn Coronafeirws,” meddai’r Dirprwy Weinidog ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Julie Morgan.

“Bydd y cynllun cymorth gofal plant coronafeirws yn sicrhau bod rhieni sy’n weithwyr hanfodol yn cael y gofal plant y mae arnynt ei angen, a bydd darparwyr gofal plant yn cael sicrwydd o ran sut bydd eu busnesau’n gweithredu.”