Mae dau ddyn o ganolbarth Lloegr, a gafodd eu gweld yn hwylfyrddio ger traeth y Graig Ddu ym Mhorthmadog, wedi cael rhybudd cosb gan Heddlu’r Gogledd.

Dywedodd yr heddlu bod y ddau ddyn wedi cael cyngor i ddychwelyd i’w cartrefi.

Maen nhw wedi rhybuddio ymwelwyr unwaith eto bod teithio diangen yn peryglu bywydau oherwydd y pandemig coronafeirws ac yn galw ar bobl i aros gartref.