Mae Nick Thomas-Symonds, aelod seneddol Torfaen, wedi’i benodi’n llefarydd materion cartref y Blaid Lafur yn San Steffan.

Roedd dyfalu y gallai gael ei benodi i un o’r prif swyddi wrth i’r arweinydd newydd, Syr Keir Starmer, ddechrau penodi ei gabinet newydd.

Roedd yn ysgrifennydd cyffredinol cysgodol yng nghyfnod Jeremy Corbyn wrth y llyw.

Mae’r ad-drefnu’n gweld nifer o gefnogwyr pennaf y cyn-arweinydd yn gadael eu swyddi, a nifer o wynebau newydd yn cael eu penodi yn eu lle.

Ymateb

Wrth ymateb ar Twitter i’w benodiad, fe ddywedodd mai brwydro yn erbyn y coronafeirws yw prif flaenoriaeth y cabinet cysgodol.

“Y dasg ar unwaith yw canolbwyntio ar y #coronaviruscrisis,” meddai.

“Fel y dywedodd @Keir_Starmer fore heddiw, byddwn yn gweithio mewn modd adeiladol â’r Llywodraeth, ac nid sgorio pwyntiau gwleidyddol, ond hefyd gofyn y cwestiynau anodd sydd angen ei wneud.”