Mae Heddlu’r Gogledd wedi meddiannu beiciau dau ddyn o ardal Wallasey.

Cafodd y ddau eu stopio gan yr heddlu wrth iddyn nhw yrru ar yr A4086 rhwng Capel Curig a Llanberis.

Roedd y plismyn o ardal Llanrwst wedi ceisio stopio’r ddau, ond fe aethon nhw yn eu blaenau.

Dywed yr heddlu y byddan nhw’n gorfod mynd i’r llys am fethu â stopio, gyrru heb yswiriant a throseddau’n ymwneud â’r coronafeirws.