Mae grwpiau Facebook fel ‘Côr-ona’ wedi ysbrydoli eisteddfod leol Capel y Groes i fynd yn ddigidol eleni.

Roedd disgwyl i’r eisteddfod arferol gael ei chynnal ar Ebrill 15 ond pan gafodd y trefnwyr wybod na fyddai hynny’n bosibl o ganlyniad i’r coronafeirws, fe wnaethon nhw’r penderfyniad i fynd â’r digwyddiad ar-lein yn hytrach na’i gohirio.

Ac yn sgil yr holl fynd sydd ar dudalennau a grwpiau fel Côr-ona ar hyn o bryd, roedd yn gyfle i symud yr eisteddfod i gyfeiriad newydd.

“O’n ni’n gweld ar wefannau fel Côr-ona fod cymaint o bobol yn rhoi fideos lan o bobol yn canu a gwneud pethau gwahanol, o’n ni’n meddwl fyddai’n syniad da i ni hefyd i wneud bach o hynny, a gallu cynnal y steddfod mewn rhyw ffordd eleni,” meddai Luned Mair, un o’r trefnwyr wrth golwg360.

“Ni wedi bod yn hysbysebu peth ar Côr-ona, er enghraifft, ac roedd hwnnw’n fwy o help o ran ysbrydoliaeth nag unrhyw beth.

“Mae clonc360 wedi bod yn helpu i hysbysebu hefyd.”

Eisteddfod leol yn mynd yn genedlaethol

O fynd ar-lein, fe fydd yr eisteddfod fach leol sydd eisoes yn denu cystadleuwyr o Geredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn mynd yn genedlaethol am y tro cyntaf.

Ond gyda’r sylw iddi ar y wê eleni, mae Luned Mair yn gobeithio y gall barhau i dyfu ac ehangu dros y blynyddoedd i ddod.

“Mae pobol yn teithio o beth pellter i gystadlu beth bynnag, ond byddai’n beth braf tase pobol yn dod i wybod am y steddfod.

“A ’falle, os y’n nhw whant dod i gystadlu yn y blynyddoedd nesa’, bydd e’n beth braf tasen ni wedi gallu rhoi mwy o gyhoeddusrwydd i’r steddfod fel ’ny.”

Beth yw’r drefn eleni?

Mae’r trefnwyr eisoes wedi cadarnhau’r drefn eleni mewn erthygl gan Clonc360.

Maen nhw’n dweud bod y cystadlaethau’n agored i unrhyw blentyn o dan 12 oed, ac mai’r dyddiad cau yw dydd Mercher (Ebrill 8).

Y dasg gelf i blant Cyfnod Sylfaen yw creu collage ar y thema ‘Y Fferm’, tra bod gofyn i blant Cyfnod Allweddol 2 fynd ati i greu poster yn hysbysebu Eisteddfod Capel y Groes 2021.

Y testun ar gyfer ysgrifennu cerdd neu stori sy’n agored i blant Cyfnod Sylfaen yw ‘Fy hoff degan’, a ‘Gwyliau’ yw’r testun ar gyfer plant Cyfnod Allweddol 2.

Dylid e-bostio’r darnau ysgrifenedig neu lun o’r gweithiau celf at eisteddfodcapelygroes@outlook.com

Bydd angen unrhyw ddarnau fideo i dudalen Eisteddfod Capel y Groes ar Facebook Messenger.

Bydd yr holl fideos yn cael eu dangos ar wefannau cymdeithasol yr Eisteddfod, a’r tri buddugol yn ymddangos ar sianel YouTube Clonc360.

Enfys Hatcher Davies ac Elin Haf Jones yw’r beirniaid eleni, a byddan nhw’n dyfarnu tystysgrif i’r tri buddugol ym mhob categori.

Mae manylion llawn yr holl gystadlaethau ar dudalen Facebook Eisteddfod Capel y Groes a’r dudalen Twitter @CapelyGroes.