“Bugger off” oedd ymateb yr Aelod Cynulliad Alun Davies i’r awgrym nad fe yw’r “gwleidydd mwyaf rhagrithiol, plwyfol, bychan ei feddwl, di-ddim yng ngwleidyddiaeth Cymru”.

Daeth yr awgrym gan @Brynllys1 ar Twitter mai eiddo Lee Waters, yr Aelod Cynulliad Llafur, yw’r goron honno.

Roedd @Brynllys1 yn ymateb i honiad gan @beatygul_beaty mai “hanner neges” yn unig gan Blaid Cymru roedd Lee Waters wedi’i darllen wrth awgrymu bod galwad y blaid ar i bobol o’r tu allan i Gymru gadw draw oherwydd y coronafeirws yn annheg.

Dyna pryd y daeth yr ymateb yma gan Alun Davies: