Mae Vaughan Gething yn dweud bod yna “bosibilrwydd” y gallai Llywodraeth Cymru wahardd pobol rhag mynd allan i wneud ymarfer corff os ydyn nhw’n parhau i anwybyddu’r rheolau.
Yng nghyngor gwreiddiol llywodraethau Cymru a Phrydain, fe ddywedodd gwleidyddion fod gan bobol yr hawl i fynd allan i wneud ymarfer corff unwaith y dydd.
Ond mae pobol i’w gweld yn manteisio ar y canllawiau hynny i fynd am ddiwrnod allan yng nghefn gwlad ac i lan y môr, ac mae Ysgrifennydd Iechyd Cymru’n rhybuddio bod y fath ymddygiad yn peryglu bywydau.
Fe ddywedodd ar raglen Sunday Politics Wales y byddai’n “well” ganddo beidio â chyflwyno gwaharddiad ond y byddai’n barod i ystyried y “posibilrwydd” pe bai angen gweithredu’n fwy llym.
Torheulo
Daw rhybudd Vaughan Gething ar ôl i Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, ddweud bod torheulo’n gyhoeddus yn erbyn canllawiau Llywodraeth Prydain.
Fe rybuddiodd yntau hefyd fod ymddygiad o’r fath yn peryglu bywydau.
Mae nifer o barciau cenedlaethol a llefydd cyhoeddus eraill ynghau yng Nghymru yn sgil drwgweithredu parhaus.
“Rydym wedi dweud ei bod yn iawn mynd am ymarfer corff oherwydd mae manteision corfforol a meddyliol ymarfer corff yn bwysig iawn,” meddai Matt Hancock.
“Dw i ddim eisiau gorfod tynnu ymarfer corff fel rheswm i adael y cartref… os yw gormod o bobol yn methu â dilyn y rheolau.
“Ar hyn o bryd, mae’r mwyafrif o bobol yn [dilyn y cyngor] ond ddylai pobol ddim torri’r rheolau oherwydd bydd hynny’n golygu bod y feirws yn lledu’n gyflymach ac mae’n bosib wedyn y bydd rhaid i ni weithredu ymhellach.”