Daeth cadarnhad fod Richard Tudor, ffermwr adnabyddus o Lanerfyl, wedi marw’n 45 oed.

Bu farw ffermwr Llysun – lle cafodd y gyfres ‘Lleifior’ ei ffilmio – brynhawn ddoe (dydd Gwener, Ebrill 3) yn dilyn damwain, yn ôl y neges.

“Yn anffodus collwyd dyn anhygoel prynhawn ddoe mewn damwain tractor,” meddai’r neges ar Twitter.

Yn dilyn cyhoeddiad y teulu, mae llu o deyrngedau wedi’u rhoi iddo.

Mae’n gadael gwraig, Catrin, ei fab Morgan, sy’n 17 oed, a merch, Lois, sy’n 15 oed, yn ogystal â’i rieni, Ann a Tom Tudor.

Teyrngedau

Roedd y ffermwr Gareth Wyn Jones ac Elin Jones, Llywydd y Cynulliad, ymhlith y bobol gyntaf i roi teyrnged i Richard Tudor ar Twitter.