Mae 13 yn rhagor o bobol wedi marw o ganlyniad i’r coronafeirws yng Nghymru, yn ôl y ffigurau diweddaraf.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae cyfanswm o 154 o bobol wedi marw yng Nghymru erbyn hyn, ond does dim cofnod manwl gywir oherwydd y ffordd mae profion yn cael eu cynnal.

Mae 387 o achosion newydd wedi’u cofnodi, sy’n mynd â’r cyfanswm i 2,853 ac mae’r feirws bellach ym mhob rhan o’r wlad.

Mae’r awdurdodau’n atgoffa pobol o’r angen i aros gartref er mwyn atal yr haint rhag lledu ymhellach.