Pan lwythodd Nesdi Jones gân newydd i YouTube ddydd Llun (Mawrth 30), go brin y byddai hi wedi disgwyl denu sylw un o fawrion y byd cerddoriaeth bhangra yn India.

Ond dyna ddigwyddodd pan welodd Diljit Dosanjh fideo’r gân mash-up, ‘Sip Sip’ ar sianel YouTube y Gymraes o Gricieth sydd eisoes yn gwneud enw iddi ei hun yn India o ganlyniad i’w chaneuon sy’n cymysgu Saesneg, Cymraeg, Hindi a Punjabi.

Mae hi eisioes yn adnabyddus am ei chaneuon ‘Deud y Gwir’ a ‘Tere Naal’ (‘Gyda Ti’), sy’n gymysgedd o Hindi, Punjabi a Chymraeg.

Mae’r gân ‘Sip Sip’ yn gyfuniad o bedair cân – darn offerynnol gan Jasmin Sandlas a dwy o ganeuon Diljit Dosanjh ei hun, ynghyd â chân Saesneg gan Drake.

‘Neshi sgrechian!’

Ac roedd hi’n amlwg fod y gân wrth fodd Diljit Dosanjh, wrth iddo anfon neges yn dweud “Kya Baat Hai Jones Saab” yn dangos ei fod e’n hoff o’r gân.

“Neshi sgrechian!” meddai Nesdi Jones wrth golwg360 wrth gofio’r eiliad welodd hi’r neges.

“Fo ydi top dog bhangra, fo sy’n dominatio’r holl sîn.

“Mae genno chdi fo ar dop y pyramid, a dwi lot mwy isel na fo i feddwl bod genno fi gân mor fawr â ‘London’.

“Wnaeth o alw fi’n ‘saab’ ac mae hwnna fatha galw fi’n ‘my homie’.

‘Party trick’

A hithau wedi byw yn India, dywed Nesdi Jones mai “party trick” oedd canu caneuon yn yr ieithoedd Indiaidd ar y dechrau.

“Pan o’n i’n byw yn India, oedd o jyst yn party trick ar y cychwyn, so wnaeth ffrind fi ddysgu un gân a wedyn oedd o jyst yn mynd “tyd yma, sing that song I taught you”.

“O’n i’n joio’r gerddoriaeth achos o’n i’n byw mewn fflat efo pedwar person o Rajasthan, so oeddan nhw bob tro yn canu neu chwarae’r gerddoriaeth ac es i fwy mewn iddo fo a neshi jyst syrthio mewn cariad efo’r gerddoriaeth, achos mae o’n gallu bod mor ramantus.

“Ac wedyn mae gen ti’r ochr arall sy jyst yn gaws i gyd a dwi wrth fy modd efo fo.”

Mae’n dweud iddi gael croeso cynnes yn India, a bod hynny wedi ei hysgogi hi i barhau i ganu yn yr ieithoedd brodorol.

“Dwi wedi cael y croeso mwya’ erioed, maen nhw jyst yn gwerthfawrogi bo fi’n trio.

“Mae acen fi’n awful ar y funud achos dwi heb fod yn India ers sbel so oedd o’n eitha’ nerve-wracking yn gneud y cân Punjabi yma a hefyd, mae Diljit Dosanjh mor gymhleth i rywun sy’ ddim yn siarad Punjabi mor fluent.

“Maen nhw jyst yn deud fod o’n grêt fod rhywun o wlad hollol wahanol wrth ei bodd efo culture hollol wahanol, a dyna pam neshi syrthio mewn cariad efo India achos oedd o fatha ail gartre’ i mi.”

‘Agor drysau’

Ar ôl profi llwyddiant wrth ymddangos gyda Yo Yo Honey Singh ar y gân ‘London’ gan Money Aujla, mae Nesdi Jones wedi gweld drosti ei hun pa mor gyflym all cân ddenu sylw’r diwydiant.

A thra bod bywyd wedi arafu yn sgil y coronafeirws ac artistiaid yn troi at y we, mae hi’n gweld cyfle i ymestyn pa mor bell mae ei chaneuon yn cyrraedd.

“Y tro dwytha wnaeth rhywun mor fawr weld fideo fi, wnaethon nhw ofyn i fi am collaboration, so mae pawb jyst fatha “c’mon” – mae dilynwyr fi i gyd yn dechra siarad ac yn tagio Diljit Dosanjh! ‘Be ydi’r step nesa?’

“Ond mae cael rhywun mor fawr yn cymryd sylw ohonaf fi, mae hynna’n beth briliant.

“Yn barod, dwi wedi cael cynhyrchydd bhangra yn deud yn barod ‘dwi isio gneud cân efo chdi’.

“Mae cael sylw gan rywun mor fawr yn gallu agor gymaint o opportunities yn gerddorol.

“Dyna pam dwi wedi dechra’ ffocysu ar YouTube channel fi, oherwydd mae pawb adra’ ac yn mynd ar y wê.”

Dyma’r gân yn ei chyfanrwydd: