Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Dr Richard Edwards o Aberystwyth yn dilyn ei farwolaeth o ganlyniad i diwmor ar ei ymennydd.

Roedd yn drysorydd Parêd Gŵyl Dewi ac yn feddyg clwb pêl-droed y dref, yn aelod o’r clwb cinio lleol ac yn weithgar dros elusen Hosbis yn y Cartref Aberystwyth a’r Cylch.

Yn ôl teyrnged gan y clwb pêl-droed, roedd sgïo, chwarae golff ac yfed gwin coch ymhlith ei brif ddiddordebau.

Mae’n gadael gwraig, Dana, dau o blant, Dafydd a Fflur, a dau o wyrion bach newydd-anedig, Gruff a Briall.

‘Colled enfawr’

“Roedd ei golled yn enfawr i ni fel Pwyllgor,” meddai Siôn Jobbins, cadeirydd Parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth.

“Roedd ei natur hamddenol, caredig a chall yn angor i ni.

“Yn ogystal ag edrych ar ôl ochr ariannol y Parêd, roedd hefyd yn gyfrifol am doreth o bethau eraill a oedd yn sicrhau bod y digwyddiad yn gweithio fel watch ar y dydd – trefnu’r llwyfan, codi’r gazeebo ar Sgwâr Glyndŵr, talu’r perfformwyr.

“Roedd y parch oedd i Richard o fewn i dref a bro Aberystwyth yn amlwg. Roedd PAWB yn ei barchu a hynny am ei fod e, fel y gŵr bonheddig yr oedd, yn parchu eraill.

“Mae colli Richard yn ergyd i’r Parêd, i dref Aberystwyth a bywyd Cymraeg y fro, ac i’r gwasanaeth iechyd.

“Coffa da am Dr Richard Edwards; bonheddwr, Cymro cadarn, dyn da a thyner.”

‘Dolur calon’

Yn ôl Donald Kane, cadeirydd Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth, “dolur calon” oedd clywed am ei farwolaeth.

“Roedd yn ddyn bonheddig, ffrind a chefnogwr ffyddlon i’n clwb.

“Roedd chwaraewyr, swyddogion a rheolwyr y clwb yn gwerthfawrogi ei flynyddoedd o help a gwasanaeth fel Doctor.

“Roedd Richard yn un o’r bobol mwyaf ffeind a gwrddais yn fy myw ac mae e’n golled ofnadwy i ni.

“Cofiwn Dr. Edwards.”