Mae Prifysgol Abertawe’n cynnal Diwrnod Agored Rhithwir heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 4).

Does dim modd cynnal diwrnodau agored wyneb yn wyneb ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau teithio a rheolau ymbellháu cymdeithasol.

Ond mae’r brifysgol wedi bwrw ati i drefnu diwrnod o weithgareddau ar y we, gan gynnwys sgyrsiau adran a/neu bwnc, a sesiwn holi ac ateb fyw gydag aelodau staff a myfyrwyr.

Bydd modd hefyd i bobol sy’n bwriadu mynd i’r brifysgol y flwyddyn academaidd nesaf weld cyfleusterau’r ddau gampws.

“Mae ein Diwrnodau Agored Rhithiol yn rhoi cyfle gwych i chi archwilio ein campysau hard, cwrdd â’n staff addysgu a chael mewnwelediad go iawn i sut beth yw bod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe,” meddai’r brifysgol ar eu gwefan.

“Byddwch hefyd yn cael cyfle i archwilio ein cyfleusterau addysgu, opsiynau llety, cyfleusterau chwaraeon, ystod o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr a chyngor ar gyllid myfyrwyr a chymorth ariannol.”

Mae modd cofrestru ar gyfer y digwyddiad drwy fynd i wefan Prifysgol Abertawe.