Mae dyn wedi derbyn dwy ddirwy o fewn 24 awr am fod allan heb reswm call.
Bu i blismyn yng Nghaerfyrddin stopio dyn 22 mlwydd oed o Lanelli ddwywaith am fod allan o’r tŷ heb reswm call.
Fe gafodd yr heddlu wybod ddydd Mercher (Ebrill 1) bod y dyn yn un o dri oedd yn torri’r rheolau coronafeirws wrth ymgynnull yn Llansteffan.
Roedd dynes yn ceisio ffilmio’r dynion, ac mae hi’n dweud eu bod nhw wedi dwyn ei ffôn a dreifio i ffwrdd.
Fe ddaeth yr heddlu o hyd i gerbyd y dynion yn teithio tuag at Gaerfyrddin ac wedyn Llanelli.
Cafodd gŵr 22 oed o Lanelli a gŵr 18 oed o Gaerfyrddin eu harestio ar amheuaeth o ddwyn a derbyn cosb am droseddau coronafeirws.
Roedd y dyn 22 eisoes wedi cael cosb am fod allan heb reswm digonol, a hynny lai na 24 awr ynghynt.
“Rydym yn cymryd y ddeddfwriaeth newydd o ddifri, a hoffwn ddiolch i’r mwyafrif o bobol sy’n aros gartref i gadw eraill yn saff,” meddai Prif Arolygydd Tom Sharville.
“Mae’n anodd addasu i’r mesurau newydd, ond mae’n bwysig ein bod yn aros gartref ac achub bywydau.”