Mae 24 yn rhagor o bobol wedi marw o coronafeirws yng Nghymru, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Bellach mae nifer y meirw gyda’r haint yn 141, ac mae 2,466 achos wedi’u cadarnhau – roedd 345 o’r rheiny yn newydd.

“Rydym yn cydymdeimlo â theuluoedd a ffrindiau’r rheiny sydd wedi’u heffeithio,” meddai  Dr Robin Howe, Cyfarwyddwr Achosion COVID-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Hyd yma mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal 10,000 o brofion am yr haint, a gweithwyr iechyd oedd 1,500 o’r rheiny.

Yn siarad brynhawn heddiw, cadarnhaodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, bod 70% o’r profion ar staff meddygol yng Nghymru wedi bod yn negyddol.