Mae disgwyl y bydd 9,000 o brofion coronafeirws yn cael eu cynnal bob dydd yng Nghymru erbyn diwedd y mis, yn ôl y Prif Weinidog.

Ar hyn o bryd mae 1,100 o brofion yn cael eu cynnal yng Nghymru, a dywedodd Mark Drakeford brynhawn heddiw y byddai hynny’n cynyddu i 5,000 erbyn canol y mis.

Ychwanegodd y byddai hynny bron yn dyblu erbyn diwedd mis Ebrill trwy “drefniant [a fydd mewn grym] ledled y Deyrnas Unedig” – hynny yw, nid Cymru fydd yn llwyr gyfrifol am y 4,000 ychwanegol.

Yn wreiddiol roedd y llywodraeth wedi gobeithio darparu 6,000 o brofion y dydd erbyn Ebrill 1, ond cafodd y cynllun yna ei ddryllio pan gefnodd cwmni – a oedd fod i ddarparu 5,000 o’r profion – ar gytundeb cyflenwi.

Llundain sy’n gyfrifol am archebion profion Cymru erbyn hyn, ond yn siarad â’r wasg heddiw mynnodd Mark Drakeford mai “deialog” oedd y sefyllfa “nid cael ein gorchymyn i wneud pethau”.

Mis “anodd” i ddod

Cododd sawl mater arall yn ystod cynhadledd i’r wasg prynhawn heddiw.

Hyd yma mae dros 1,500 o weithwyr iechyd yng Nghymru wedi cael eu profi, a holodd newyddiadurwr BBC faint o’r rheiny oedd yn bositif.

Honnodd bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gwrthod datgelu’r ffigur, ac ymatebodd y Prif Weinidog trwy ddatgelu bod 70% o’r profion rheiny wedi bod yn negyddol.

Wrth drafod y dyfodol, dywedodd Mark Drakeford nad oedd yn credu y byddai’r camau ynysu yn llacio o fewn tair wythnos – erbyn diwedd y cyfnod yma bydd yna adolygiad o’r sefyllfa.

“Rydym yn disgwyl bydd y mis nesaf yn fis anodd i bob un ohonom yng Nghymru,” meddai.