Mae mudiad iaith wedi galw am wario £103m yn rhagor bob blwyddyn ar y Gymraeg.

Mewn dogfen sydd wedi’i chyhoeddi heddiw mae Dyfodol i’r Iaith yn galw am “adferiad y Gymraeg yn iaith genedlaethol”, ac mae’n amlinellu cyfres o gamau y dylid eu cymryd.

Yn Cynllunio Adferiad y Gymraeg mae’r mudiad yn cydnabod bod llawer o bethau “rhagorol” eisoes wedi’u rhoi ar waith i adfer yr iaith, ond bod hynny ddim wedi digwydd mewn ffordd “integredig”.

I fynd i’r afael â hyn mae Dyfodol i’r Iaith yn galw am wario miliynau yn rhagor bob blwyddyn, ac yn galw am sefydlu corff newydd, “Awdurdod neu Asiantaeth Iaith”.

Mae’r mudiad yn tybio mai’r Awdurdod/Asiantaeth yma fyddai’n dewis sut y dylid gwario arian ar y Gymraeg, ac maen nhw wedi rhoi cynnig ar fwrw amcan ar “y gwariant angenrheidiol”.

Sut i wario’r arian?

  • £3m i weinyddu awdurdod iaith cryf fydd yn arwain a gweithredu polisi;
  • £10m i hyfforddi arweinwyr cylchoedd meithrin ac athrawon trwy gynlluniau rhyddhau o’r gwaith;
  • £10m i ddysgu’r iaith i weithwyr cyrff cyhoeddus, trwy gynlluniau rhyddhau o’r gwaith;
  • £10m i rieni gael dysgu’r iaith;
  • £10m at gynlluniau i Gymreigio’r Stryd Fawr: gan gynnwys gwersi Cymraeg i weithwyr siop ac ati;
  • £10m i sefydlu Canolfannau Cymraeg, ar sail cefnogaeth leol i ail-greu cymdeithasau Cymraeg;
  • £10m i Gymreigio Prifysgolion a Cholegau Addysg Bellach;
  • £10m i gefnogi timau chwaraeon, gweithgareddau cymdeithasol a’r byd adloniant i ddefnyddio Cymraeg;
  • £20m i hybu economi ardaloedd Cymraeg;
  • £10m i gynnal sefydliadau a chymdeithasau Cymraeg.

Mae Dyfodol i’r Iaith yn rhagweld y bydd y gwariant hwn yn gallu dod o wahanol Adrannau’r Llywodraeth, gan gynnwys yr adrannau Addysg, yr Economi a Chynllunio Trefol.

“Ni ddylid disgwyl bod yr holl arian, na’r rhan fwyaf ohono, yn dod o gyllid Adran y Gymraeg,” meddai’r mudiad.

Mae Dyfodol yr Iaith hefyd yn cynnig y gallai’r flaenoriaeth newid bob blwyddyn, ac felly byddai’n fodd gwario mwy neu lai ar bob maes o flwyddyn i flwyddyn.

Beth fyddai’r Awdurdod/Asiantaeth?

Ar hyn o bryd, dau gorff sydd â’r cyfrifoldeb am arwain a gweithredu polisi o ran y Gymraeg, sef Comisiynydd y Gymraeg ac Is-adran y Gymraeg o fewn Llywodraeth Cymru.

Barn Dyfodol i’r Iaith yw bod angen newid y drefn a sefydlu trydydd corff.

Mae’r mudiad yn sôn am greu Awdurdod neu Asiantaeth a fyddai’n gorff hyd-braich i Lywodraeth Cymru – ond maen nhw hefyd yn derbyn y gallai fod yn rhan o wasanaeth sifil Llywodraeth Cymru.

Mae’n ymddangos mai nod yr Awdurdod/Asiantaeth yma fyddai cydlynu’r holl gamau i adfer yr iaith, a sicrhau eu bod yn digwydd ar y cyd mewn sawl maes gwahanol.

“Prosiect blaengar, cyffrous”

“Dydy peth fel hyn erioed wedi cael ei wneud o’r blaen yng Nghymru,” meddai awduron yr adroddiad wrth gloi. “Fel y mae esiampl y Basgiaid ac eraill yn dangos, fe all weithio.

“Mae’n brosiect blaengar, cyffrous. Mae’n hanfodol i’r ymdrech genedlaethol… Nawr yw’r amser i ymateb i’r her hanesyddol hon.”