Mae bocsys bwyd ar gyfer pobol fwyaf bregus cymdeithas wedi dechrau cael eu dosbarthu yng Nghymru.

Hyd yma mae’r coronafeirws wedi lladd dros 100 o bobol yng Nghymru, ac mae’r rheiny sydd â phroblemau iechyd dwys wedi cael eu cynghori i ynysu’u hunain yn llwyr.

Mae 80,000 o’r bobol yma yn y wlad hon, a bydd rhai ohonynt sydd methu galw am gymorth gan deulu a ffrindiau bellach yn derbyn cymorth gan y wladwriaeth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau £15m ar gyfer y cynllun i ddosbarthu bocsys bwyd i gartrefi pobol fregus, a bydd y rheiny sy’n gymwys yn dechrau eu derbyn heddiw (dydd Gwener, Ebrill 3).

Y bocsys

Mae pobol fwyaf bregus Cymru wedi cael eu cynghori i aros adre am 12 wythnos, ac felly dyw llawer ddim yn medru mynd i’r siopau i brynu bwyd.

Mae bocs arferol yn cynnwys pob math o eitemau gan gynnwys, bwyd tun, pasta, papur tŷ bach, ffrwythau, llysiau, bara, a llaeth sy’n para am hir.

Bydd y bocsys yn cael eu dosbarthu unwaith yr wythnos, ac mi fydd digon o gynnyrch ynddyn nhw i bara am wythnos. Os oes dau berson bregus yn ynysu mewn tŷ, bydd dau focs yn cael eu dosbarthu.

“Pob cornel o Gymru”

Andrew Selley a Hugo Mahoney yw prif weithredwyr y ddau gwmni a fydd yn dosbarthu’r bocsys, Bidfood a Brakes, ac mae’r ddau yn “falch iawn” o gyfrannu at yr ymdrech.

“Rydyn ni’n bwriadu defnyddio ein rhwydweithiau dosbarthu i sicrhau ein bod yn cyrraedd pobol fregus ym mhob cornel o Gymru,” medden nhw.

“Mae ein gyrwyr a’n timau warws hynod broffesiynol yn eithriadol ymroddedig er mwyn helpu’r ymdrech genedlaethol hanfodol.”