Mae ymchwil newydd gan Achub y Plant wedi canfod fod 56% o rieni yn poeni am iechyd meddwl eu plant oherwydd ymbellhau cymdeithasol yn sgil y coronafeirws.

Dywed yr arolwg fod 58% o blant rhwng chwech ac 18 mlwydd oed yn poeni ynghylch aelod o’u teulu yn mynd yn sâl.

Roedd 25% o blant yn poeni am brinder bwyd, gyda 46% yn pryderu am y ffaith nad oeddynt yn gallu gweld ffrindiau, ag 20% yn poeni am gadw i fyny gyda gwaith ysgol.

Roedd 1 o bob 5 o blant hefyd yn poeni am y dyfodol gan nad oes dyddiad pendant pryd y bydd ysgolion yn ail agor.

Dywed 48% o rieni mai eu prif bryder yw gwneud yn siŵr fod digon o fwyd ar gael, gyda  44% yn nodi eu bod yn poeni am allu helpu eu plant gyda’u gwaith ysgol a 38% yn pryderu am arian.

Roedd 1 ymhob 5 yn poeni am sicrwydd swyddi a sut i fynd ati i egluro’r sefyllfa a thrafod coronafeirws gyda’u plentyn.

Gofal plant

Golygai’r ffaith fod yr ysgolion wedi cau fod rheini yn gorfod cydbwyso gofalu am eu plant gyda gweithio o gartref a cheisio addysgu.

Mae chwarter o rieni yn jyglo gweithio gartref, tra bod 17% wedi lleihau eu horiau gwaith er mwyn gallu gofalu am eu plant.

Mae 12% o rieni wedi eu gorfodi i gymryd seibiant o’r gwaith yn ddi-dâl er mwyn gallu gofalu am eu plant, tra bod un ymhob 10 wedi gorfod gadael eu swyddi yn gyfan gwbl.

Apêl

Mae’r arolwg wedi’i gyhoeddi i gyd-fynd gyda lansio apêl codi arian gan Achub y Plant i helpu rhai o’r plant mwyaf bregus a’u teuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan coronafeirws.

Mae’r elusen eisoes wedi cyhoeddi rhaglen grantiau argyfwng newydd er mwyn sicrhau fod teuluoedd yn gallu cael adnoddau dysgu i’w helpu gydag addysgu o’r cartref.

Maent hefyd wedi paratoi hwb gydag adnoddau addysgu o’r enw Y Den sy’n cynnig syniadau ar gyfer pethau i’w gwneud gyda phlant yn ystod y pandemig coronafeirws.

“Drwy gydol y cyfnod heriol hwn i deuluoedd, rydym yma i gynnig cefnogaeth drwy ganolbwyntio ar gadw plant yn ddiogel ac yn iach a gwneud yn siŵr eu bod yn gallu parhau i ddysgu, doed a ddêl,” meddai Deb Barry, Uwch Ymgynghorydd Dyngarol i Achub y Plant.

“Drwy ein rhaglen argyfwng byddwn yn cyflenwi’r rhai sydd mewn mwyaf o angen gyda thalebau bwyd a grantiau ariannol i geisio sicrhau na fydd mwy o blant yn syrthio o dan y llinell dlodi yn ystod cyfnod na welwyd ei debyg o’r blaen.”