Ffŵl Ebrill: Stondin Sulwyn ac Eisteddfod America

Diweddarwyd  
Sian Lewis

Sian Lewis, Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, yn America

Llun: Urdd Gobaith Cymru

Ar Ebrill y cyntaf 1985, syfrdanodd sioe Radio Cymru Stondin Sulwyn genedl gyfan wrth gyhoeddi y byddai Eisteddfod Genedlaethol 1991 yn cael ei chynnal yn America.

Daeth i’r amlwg mai jôc ffŵl Ebrill oedd hi ond roedd nifer fawr o’r Cymry wedi disgyn amdano ac yn gynddeiriog bod yr Eisteddfod yn symun mor bell.

“Mae’n rhaid imi gyfaddef nad fy syniad i oedd o,” meddai cyflwynydd y sioe, Sulwyn Thomas.

“Roeddwn i’n cael peint gydag ymchwilydd dros dro’r rhaglen, Geraint Glyn ac ein dyn sain, Ian Muxworthy a oedd wedi cael llond bol o drafod yr Eisteddfod.

“‘Pam wna nhw’m ei symud o i America?’ Meddai Ian, ac o fanno ddaeth y syniad.”

Llwyddodd y sioe i dwyllo pobl nid yn unig bod Eisteddfod 1991 yn cael ei chynnal yn America, ond mai Ronald Regan fyddai’r Llywydd, y byddai General Motors yn darparu’r Gadair a Coca Cola’n rhoi’r Goron.

“Roedd pobl yn dweud ei bod hi’n warthus fod yr Eisteddfod hyd yn oed yn cysidro’r peth ac mai dyna’r brad mwyaf posib ar yr iaith Gymraeg,” meddai Sulwyn Thomas.

Yn wir, aeth Cymdeithas yr Iaith mor bell a bygwth trais er mwyn rhwystro’r peth rhag digwydd.

“Roedd hi’n jôc Gymraeg fyddai ddim wedi gweithio yn unman arall, roedd y Cymry wedi cael ei dal a chwarae teg, roedd y rhan helaeth ohonynt yn fodlon cyfaddef hynny,” meddai Sulwyn Thomas.

“Mae pobl yn dal i son am y peth hyd heddiw, felly mae’n amlwg fod yr holl beth wedi cydio yn nychymyg pobl.”

Goreuon golwg360

Mae golwg360 hefyd wedi ceisio gwneud ambell Ffŵl Ebrill dros y blynyddoedd. Dyma ymgais wirion eleni:

Cynllun Creadigol ar gyfer Copa’r Wyddfa

A dyma rai o’r goreuon, gan gynnwys un credadwy iawn y llynedd…

Theresa May wedi cwblhau cytundeb – a phrynu tŷ ger Dolgellau

Gobaith i werthu Sali Mali

William a Kate am fyw yng nghastell Caernarfon

Darganfod esgyrn ac arfau hynafol yn Ogof Glyndŵr

Cymru

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn