Mae PAWB wedi croesawu cyhoeddiad gan yr Ysgrifennydd Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ei fod yn gohirio penderfyniad ar gais cynllunio Wylfa Newydd tan ddiwedd Medi 2020.

Dywed Alok Sharma nad yw’n fodlon gydag atebion a roddwyd i gwestiynau’r llywodraeth ynglŷn â materion amgylcheddol ac ystyriaethau eraill.

Ond credai PAWB nad yw cynnig gohiriad arall yn mynd yn “ddigon pell.”

Maent yn awyddus i weld cais cynllunio Horizon Nuclear gael ei wrthod, gan ddweud bod “prisiau technolegau adnewyddadwy fel gwynt, solar a rhai morol wedi llwyr danseilio unrhyw reswm dros fuddsoddi bilynnau o bunnoedd mewn ynni niwclear.”

Aiff PAWB ymlaen i annog y Llywodraeth i fuddsoddi mewn technolegau adnewyddadwy yn hytrach nag ynni budr, gan ddweud y byddai chwyldro gwyrdd gynhyrchu miloedd o swyddi ym Mhrydain.