Mae capeli ac eglwysi Cymru yn apelio ar bobl i beidio â theithio i fynwentydd ar Sul y Blodau (Ebrill 5) i osod blodau ar feddau anwyliaid.

“Er mor chwithig ydyw, mae’n allweddol bwysig bo ni’n cadw pellter rhag pobl am wythnosau eto,” meddai’r Parchg Dyfrig Rees, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

“Yn y cyfnod anodd hwn, rydym ni’n ysu i wneud pethau sy’n ein hatgoffa ni o normalrwydd ond fedrwn ni ddim peryglu’n hiechyd ni nac iechyd pobl eraill. Ddaw dim da o deithio i dalu gwrogaeth i’r meirw.”

Beth ellwch chi ei wneud?

“Felly, am eleni, peidiwch â mynd i’r fynwent yn ôl eich harfer – arhoswch adref” meddai’r meddai’r Parchedig Dyfrig Rees.

“Cyneuwch gannwyll, mynnwch foment dawel i gofio am y bobl a fu’n rhan o’ch bywyd chi ar y ddaear hon unwaith ac sy’n parhau i fod yn annwyl i chi o hyd. Fe fuasen nhw’n deall y rheswm dros gadw draw. Roeddent yn eich caru chi a byddent am i chi fod yn ddiogel.”

Awgrym arall gan yr Eglwys Gatholig, yn hytrach na mynd i’r fynwent yw i osod sbrigyn ar eich silff ffenest neu ar ddrws y tŷ. Gall fod yn unrhyw sbrigyn gwyrdd fydd yn cynrychioli Sul y Palmwydd ac yn cadw at draddodiad y Cymry o gyflwyno blodau ar Sul y Blodau.

Cymru yw un o’r ychydig wledydd drwy’r byd sy’n galw’r Sul cyn y Pasg yn Sul y Blodau, ac mae’n draddodiad yma ers canrifoedd.