Mae pobol yng Nghymru’n wynebu cyfyngiadau ar eu symudiadau am fwy na’r tair wythnos a gafodd ei gyhoeddi’n wreiddiol, meddai Mark Drakeford.

Mae prif weinidog Cymru’n cyfaddef y gallai cyfyngu ar bobol a busnesau fod yn “daith hir ac anodd”, ond dywed y daw lleihad graddol mewn mesurau pe bai’r rheolaeth bresennol yn dangos cwymp yn nifer y bobol sydd wedi’u heintio.

Ddoe (dydd Llun, Mawrth 30), cynhaliodd Mark Drakeford gynhadledd deledu fyw gyntaf Llywodraeth Cymru am y coronafeirws yng Nghaerdydd.

Taith hir ac anodd

Dywed ei fod yn cytuno â Dr Jenny Harries, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Lloegr, y bydd gwledydd Prydain yn gweld ymbellháu cymdeithasol yn para yn hirach na’r tair wythnos.

“Credaf y bydd yna leihad graddol yn y cyfyngiadau dros gyfnod o amser os yw’r hyn yr ydyn ni wedi ei wneud eisoes yn ein galluogi ni i leihau uchafbwynt y firws,” meddai’r prif weinidog.

“Efallai y bydd angen cyfyngiadau sylweddol am gyfnod hirach na thair wythnos, ac yna heibio’r cyfnod yna, fyddwn ni ddim yn mynd o bopeth wedi ei rwystro i ddim byd yn cael ei rwystro, ac mae hynny am fod yn daith hir ac yn daith anodd i unigolion a busnesau.”

Nifer yr achosion hyd yn hyn

Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 62 o bobol wedi marw o’r coronafeirws yng Nghymru, yn dilyn 14 o farwolaethau newydd, gyda 210 o achosion newydd yn dod â’r cyfanswm i 1,451.

Yr ardal sydd wedi ei heffeithio fwyaf yw ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, sydd wedi gweld cynnydd o 51 o achosion i 565.

Ac mae Mark Drakeford yn cyfaddef fod gweithiwr iechyd yn yr ardal wedi trosglwyddo’r feirws i gydweithwyr yn y dyddiau cynnar, a bod hynny’n egluro’r nifer uchel o achosion.

Dywed hefyd fod dros 1,000 o brofion y dydd yn cael eu cynnal yng Nghymru, gyda’r bwriad o gynyddu’r nifer i “nifer o filoedd yn rhagor” yn ystod Ebrill er mwyn cadw cofnod o’r ymlediad o fewn y gymuned.