Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn chwilio am staff ychwanegol ar frys yn sgil y coronafeirws, gan gynnwys gofalwyr, glanhawyr a staff arlwyo.

Does dim angen profiad blaenorol, gyda hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu, yn ôl y cyngor.

Mae ganddyn nhw swyddi gwag ar gyfer gweithwyr cymdeithasol hefyd.

“Mae’n hanfodol i ni gynnal ein gwasanaethau rheng flaen yn ystod yr argyfwng hwn; ac o ganlyniad, mae gennym swyddi gwag y mae angen i ni eu llenwi ar unwaith,” meddai’r Cynghorydd Mair Stephens, Dirprwy Arweinydd a’r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Recriwtio a Hyfforddiant.

“Rydym yn annog pobol sy’n gallu gwneud cais am y swyddi hyn i gysylltu â ni.”

Cyngor Gwynedd yn recriwtio

Yn y cyfamser, mae gŵr o ardal Caernarfon wedi arallgyfeirio i gludo meddyginiaeth i bobol sydd wedi gorfod ynysu eu hunain yn eu cartrefi.

Hyfforddwr yn y maes awyr agored yw Amlyn Parri o’r Groeslon ond erbyn hyn, mae’n gweithio’n llawn amser i ddanfon meddyginiaeth ar ran y fferyllfa ym meddygfa Hafan Iechyd, Caernarfon.

Mae’n dosbarthu cannoedd o becynnau i unigolion ar hyd a lled yr ardal yn ddyddiol.

“Mae gen i gefndir yn y maes gofal, a phan welais i’r hysbyseb yn gofyn am weithwyr gofal ychwanegol gan y cyngor, mi rois fy enw i lawr yn syth”, meddai.

Yn ôl Bethan Jones, Rheolwr Hafan Iechyd, mae’r galw am bresgripsiwn sy’n cael ei ddosbarthu i’r drws wedi cynyddu’n syfrdanol yn sgil y coronafeirws.

“Dim ond unwaith yr wythnos yr oedden ni’n arfer gorfod danfon meddyginiaeth,” meddai.

“Roedd hynny i bobol hŷn, neu i’r anabl, ond rŵan rydan ni’n danfon cannoedd bob dydd.”