Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnig cyngor a chefnogaeth i bobol sydd mewn perygl o drais yn y cartref yn sgil mesurau llym i fynd i’r afael â’r coronafeirws.

Mae’r heddlu’n dweud bod llai o drais yn y cartref wedi’i adrodd ers i’r gwarchae (lockdown) ac ymbellháu cymdeithasol ddod i rym, ond maen nhw’n gofidio y gallai ofnau pobol a straen yn sgil y feirws roi pobol sy’n cyd-fyw â nhw mewn perygl.

Ymhlith pryderon mwyaf pobol yn ystod y feirws mae arian, ysgolion yn cau, gweithio o adref a newidiadau ym mhatrwm bywyd o ddydd i ddydd yn y cartref ac mae’r rhain i gyd yn gwneud achosion o drais yn y cartref yn fwy tebygol.

Sut i adrodd am droseddau

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, derbyniodd yr heddlu oddeutu 180 o adroddiadau am drais yn y cartref bob wythnos, ond dim ond 110 o achosion gafodd eu hadrodd yn ystod yr wythnos hyd at ddydd Sul (Mawrth 29), ac mae hynny’n ostyngiad o 39%.

Ond mae’r heddlu’n gofidio am bobol sy’n teimlo nad oes modd iddyn nhw adrodd am achosion.

Maen nhw’n cynghori pobol i ffonio 999 mewn argyfwng, neu mae modd pwyso 55 ar ffôn i roi gwybod nad yw’n ddiogel iddyn nhw siarad, a chaiff galwadau o’r fath eu trosglwyddo i’r heddlu fel bod modd gwrando ar unrhyw sŵn yn y cefndir ac ymateb i’r alwad.

Ac mae’r heddlu’n dweud y byddan nhw’n ymateb i alwadau yn yr un modd ag arfer er gwaetha’r feirws.