Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi pecyn o fesurau economaidd i helpu pobl leol a busnesau’r sir oherwydd pandemig y coronafeirws.

Mae’r mesurau sydd wedi’u rhoi ar waith yn cynnwys ‘gwyliau’ ad-daliad benthyciad busnes, cymorth i fusnesau bach a chymorth i’r rhai sy’n poeni am eu biliau treth Cyngor.

‘Achosi straen’

Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Gyllid: “Bwriad y mesurau hyn yw helpu pawb i ddod drwy’r cyfnod anodd yma.

“Mae’r firws eisoes yn achosi straen anhygoel ar bobl wrth iddyn nhw boeni am eu hiechyd a’u lles eu hunain ac iechyd eu hanwyliaid. Lle mae’n bosib, rydym yn gwneud popeth i sicrhau nad ydi pryderon ariannol yn cael eu hychwanegu at y baich y mae pawb eisoes yn ei deimlo.”

Dyma rai o’r mesurau sydd ar y gweill:

Benthyciadau busnes – Bydd busnesau a gymerodd fenthyciad trwy Gronfa Benthyciad Busnes a Chronfa Gwella’r Stryd Fawr (Caernarfon, Bangor, Bethesda a Penygroes) yn cael seibiant ad-daliad o chwe mis.

Grantiau busnes –

  • Bydd Gwasanaeth Trethi’r Cyngor yn gweinyddu cyfran Gwynedd o’r £1.4 biliwn o gefnogaeth i fusnesau bach yn ystod yr argyfwng Coronafeirws, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yr wythnos hon.
  • Mae grantiau o £25,000 ar gael i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth ardrethol o £12,001-£51,000
  • Bydd pob busnes sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai – ac sy’n gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach – yn derbyn grant o £ 10,000.

 Rhyddhad ardrethi – Bydd y Cyngor hefyd yn defnyddio Cynllun Rhyddhad Ardrethi Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch. Nod y cynllun yw darparu cefnogaeth ar gyfer adeiladau cymwys trwy gynnig gostyngiad o 100% ar eu bil ardrethi annomestig.

 Cymorth Trethi Cyngor – Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi’r rhai  sydd wedi gweld eu hamgylchiadau yn newid oherwydd y firws a’r cyfyngiadau a ddaeth i rym yr wythnos hon gan Lywodraeth y DU.